Hugh Bevan
academydd, beirniad llenyddol (1911-1979)
Ysgolhaig Cymraeg a beirniad llenyddol oedd Hugh Bevan (1911 - 1979). Ganed ym mhentref bychan Saron, Sir Gaerfyrddin.
Hugh Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 1911 Saron |
Bu farw | 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, academydd |
Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa academaidd yn uwch-ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe.
Ymhlith ei ddiddordebau academaidd oedd bywyd a gwaith Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn hanesydd llên medrus a beirniad llenyddol craff. Yn ogystal â chyfrol sylweddol am Forgan Llwyd cyhoeddodd astudiaeth feirniadol o farddoniaeth Islwyn a hunangofiant.
Llyfryddiaeth
golyguBeirniadaeth:
- Morgan Llwyd y Llenor (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
- Dychymyg Islwyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1965).
- Beirniadaeth Lenyddol, gol. Brynley F. Roberts (1982).
Hunangofiant:
- Morwr Cefn Gwlad (1971)