William Thomas (Islwyn)
Bardd o Gymro a anabyddir fel arfer wrth ei enw barddol Islwyn oedd William Thomas (3 Ebrill 1832 – 20 Tachwedd 1878). Er nad enillodd yr un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol ac roedd yn gymharol anadnabyddus yn ystod ei fywyd, erbyn diwedd y 19g dechreuwyd ei ystyried yn un o feirdd Cymraeg mwyaf ei oes.[1][2] Fe'i ganed ger yr Ynys-ddu yng Ngwent (Bellach yn rhan o Fwrsdeisdref Sirol Caerffili) ac mae wedi'i ddisgrifio fel llenor mwyaf y Sir Fynwy hanesyddol.[3]
William Thomas | |
---|---|
Ffugenw | Islwyn |
Ganwyd | 3 Ebrill 1832 Ynys-ddu |
Bu farw | 20 Tachwedd 1878 Ynys-ddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, pregethwr |
- Am ddefnydd arall o'r enw Islwyn gweler yma.
Bywgraffiad
golyguCefndir Teuluol
golyguRoedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Ynysddu, yn Nyffryn Sirhywi, hanner ffordd rhwng Tredegar a Chasnewydd, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Saif Ynysddu wrth droed Mynydd Islwyn, a gymerodd Islwyn yn ddiweddarachfel enw barddol. Er bod tad Islwyn yn siaradwr Cymraeg ymddengys mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd.[4]
Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg mewn amrywiaeth o ysgolion yn Nhredegar, Casnewydd, Y Bont Faen ac Abertawe. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd, ond dangosodd ddiddordeb cynnar mewn barddoniaeth a phregethu. Methodistiaid oedd ei deulu ac mae'n debyg y bu ei frawd yng nghyfraith, Daniel Jenkyns, yn ddylanwad sylweddol ym magu diddordeb Islwyn yn yr iaith Gymraeg. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn gynnar; ei brif athrawon barddol cynnar oedd y beirdd lleol Gwilym Ilid ac Aneurin Fardd.
Ann Bowen
golyguYn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ifanc o'r enw Ann Bowen, merch i roser. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Ann ar 24 Hydref 1853 yn ddisymwth wedi salwch byr. Ugain oed oedd Islwyn ar y pryd ac mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith diweddarach Islwyn.
Y Storm
golygu- Prif: Y Storm (Islwyn)
I'r cyfnod yn syth ar ôl marwolaeth Ann, ac yn wir, yn ymateb uniongyrchol i'r digwyddiad hwnnw, y perthyn gwaith mwyaf ac enwocaf Islwyn fel bardd, sef y ddwy bryddest hir sy'n dwyn yr un teitl, Y Storm. Gweithiodd Islwyn ar y cyntaf o 1854 hyd at dechrau 1856, ac yna ar yr ail yn ystod 1856.[5] Ni chyhoeddwyd y naill gerdd na'r llall yn llawn yn ystod bywyd y bardd, nac yn eu ffurfiau gwreiddiol nes canrif yn ddiweddarch, ond bellach ystyrir mai hwythau yw uchafbwyntiau ei waith,[6][7] ac fe'u cyfrir ymysg uchafbwyntiau barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol ac yn y 19g yn enwedig.[8]
Er bod rhai llinellau'n gyffredin rhyngddynt cerddi annibynnol yw'r ddwy gerdd, fodd bynnag tebyg iawn yw eu cymeriad a'u deunydd thematig. Yng ngeiriau Glyn Tegai Hughes, cofiannydd Islwyn, "Hanfod y ddwy gerdd yw'r frwydr rhwng amser ac anfarwoldeb, rhwng atgof a'r presennol, rhwng sylwedd ac ymddangosiad. Maes y gad yw'r byd naturiol, ond ar wedd gosmig yn hytrach na thirluniadol."[9]
Bu cryn dryswch ynghylch natur Y Storm oherwydd i Islwyn gyhoeddi rannau o'r gerdd gyntaf fel cerddi unigol yn ystod ei fywyd. Cyhoeddwyd golygiad o'r ail Storm gan O. M. Edwards yn 1897, ond cynhwysodd rhai rhannau o'r gerdd gyntaf hefyd nad oedd wedi sylweddoli eu bod yn rannau o gerdd gwahanol. Hyd nes cyhoeddwyd golygiadau safonol o'r ddwy gerdd yn 1980 ac 1990 gan Meurig Walters bu cryn dryswch a dadlau ynghylch union gynnwys, ffurf, strwythur ac arwyddocâd y ddwy gerdd.[6] Nodwedd diddorol am y Storm sy'n eu gwneud yn wahanol iawn i gerddi hir eraill y cyfnod yw nad oeddynt wedi'u bwriadu ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfodol: yn wir, ymddengys mai Islwyn oedd y bardd cyntaf ers Dafydd Ionawr i ganu cerdd hir ar destun o'i ddewis ei hun.[10]
Bardd Eisteddfodol a Newyddiadurwr
golyguYn 1854 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid; fe'i ordeiniwyd yn 1859 ond ni ddaeth yn weinidog ar eglwys erioed. Cynhaliai ei hunan drwy'r etifeddiaeth a gawsai o'i rieni sef rhes o dai rhent gerllaw, a chyfoeth ei wraig Martha Davies o Abertawe, a briododd yn 1864. Ni chawsant blant. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwr, golygydd colofnau barddol a sylwebydd ar lenyddiaeth gan mwyaf. Cyfrannai'n gyson i'r cylchgronau, e.e. Y Traethodydd, Y Drysorfa, Y Dysgedydd a'r Cylchgrawn. Yn 1854 cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Barddoniaeth. Bu'n olygydd ar Y Cylchgrawn, Yr Ymgeisydd, Y Glorian a'r Gwladgarwr ac ar golofnau barddoniaeth Y Faner a'r Cardiff Times.
Wedi rhoi'r Storm i'r neilltu yn 1856, barddoniaeth ar gyfer cystadlaethau oedd cyfran helaeth o'i weithgarwch llenyddol dros weddill ei oes. Cystadleuai yn yr eisteddfodau lleol a'r Eisteddfod Genedlaethol ac er na enillodd yr un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol er gwaethaf sawl ymdrech, bu'n ddigon llwyddiannus yn y mân Eisteddfodau: enillodd y goron am ei awdl ar Carnhuanawc yn Eisteddfod Y Fenni yn 1853; enillodd cadeiriau yn Y Rhyl am awdl Y Nos yn 1870, yng Nghaergybi am awdl Moses yn 1872, yng Nghaerffili am awdl Cartref yn 1874 ac yn Nhreherbert am awdl Y Nefoedd yn 1877.
Marwolaeth
golyguBu iechyd Islwyn yn fregus erioed a bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Nid anghofiodd ei gariad gyntaf gydol ei oes. Yn ôl un tyst, ei eiriau olaf oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Ann 'nawr".
Claddwyd ef yng Nghapel y Babell, yng Nghwmfelinfach,[11] sef y capel a fynychodd drwy gydol ei oes. Bu amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn, er ymddengys nad yw'r capel bellach (ers 2024) ar agor, na'r gymdetihas yn bodoli.
Cymeriad
golyguDyma'r portread o Islwyn a rydd ei gyfaill oes Daniel Davies ohono:
- "Bychan ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a'i ymddangosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr... Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau'n brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn... yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell."[12]
Gwaddol
golyguNodweddir gwaith Islwyn ar ei orau gan gyfriniaeth feiddgar a delweddau ysbrydoledig. Cofir y bardd yn bennaf am ei ddwy bryddest hir, uchelgeisiol a dylanwadol sy'n dwyn y teitl Y Storm, ac sy'n fyfyrdodau ar Natur, y Greadigaeth a ffawd dyn.
Mae cydnabyddiaeth eang bod y rhannau gorau o'r ddwy Storm yn cynrychioli barddoniaeth mwyaf pwerus y bardd os nad yr 19g. Er ei fod yn feirniadol o'r gerdd fel cyfanwaith ystyriodd W. J. Gruffydd bod trydedd rhan yr ail Storm yn "anrhaethol bwysicach na dim arall yng nghyfraniad llenyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[13] I R. M. Jones roedd yr ail Storm yn un o gerddi hir orau'r ganrif ac yn sefyll "ymhlith gorchestion cydnabyddedig a diogel ein llenyddiaeth."[8] Yn cyfeirio at y ddwy gerdd, meddai cofianydd Islwyn Glyn Tegai Hughes:
Nid yw'r cerddi heb eu gorlwyth o ddelweddau emosiynol, o'r straenio am yr aruchel a nodwyd, o ddilyn ffasiynau llenyddol eilradd. Nid oes cysondeb yn y trafod motiffau a symbolau - gweithredol, synfyfyriol, gweledgiaethol, breuddwydiol, llesmeiriol, diwiynyddol, yn eu tro. Ond prin bod dryswch a blerwch o unryw bwys; llif y dychymyg ac angerdd y mynegiant sy'n ysgubo popeth o'u blaen, o leiaf yn yr ariâu mawr sy'n codi byth a hefyd allan o'r adroddgan. Yng nghroth yn gerdd y mae rhyw gydweddiadaau'n tyfu: metafforau tragwyddoldeb, ehediadau daearyddol, gofodol a hanesyddol, gweledigaethau ysbeidiol o ddoleniad natur, meddwl, a'r anfeidrol. Y rhyfeddod yw gweld llanc 22 a 23 oed o'r Ynys-ddu yn anelu mor uchel, ac yn cyrraedd y nod mor aml.[14]
24 oed oedd Islwyn pan roddodd Y Storm o'r neilltu. Er iddo fyw am dros ddwy degawd eto a chynhyrchu miloedd o linellau o farddoniaeth, mae sawl beirniad o'r farn mai, ar y gorau, ail-droedio'r un tir â'r Storm oedd ar ôl 1856.[15] Nid oes llawer o lewyrch i'w awdlau Eisteddfodol.[16]
Nid oedd Islwyn yn neilltuol o adnabyddus yn ystod ei oes o'i gymharu â beirdd eraill fel Ceiriog, Talhaiarn ac eraill. Fodd bynnag daeth yn gynyddol ddylanwadol ar ôl ei farwolaeth ac ef oedd prif dylanwad mudiad a enwyd ar y pryd "Y Beirdd Newydd", sef beirdd a brofodd cryn lwyddiant Eisteddfodol yn ystod yr 1890au: Iolo Caernarfon, Ben Davies ac eraill.[17] Isel yw bri y mudiad hwn heddiw.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Cerddi
- Barddoniaeth (1854)
- Caniadau (1867)
- Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897)
- Gwaith Islwyn Cyfres y Fil gol. Owen M. Edwards (Ab Owen, Llanuwchllyn 1903)
- Detholiad o waith Islwyn, gol. J. T. Jones (1932)
- Y Storm, gol. Meurig Walters (1980)
- Astudiaethau
- T. H. Parry-Williams, Islwyn (1948)
- Meurig Walters, Islwyn: Man of the Mountain (1983)
- Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.
- Stephens, Meic (gol.) (1997). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (2il Argraffiad). Gwasg Prifysgol Cymru.
- Walters, Meurig (gol.) (1980). "Storm" Gyntaf Islwyn. Yr Academi Gymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffith John Williams (1958) The Welsh Tradition of Gwent, Plaid Cymru. t.14
- ↑ https://www.fergusthomas.com/news/the-faculty-divine-exhibition
- ↑ Alan Roderich, 'A History of the Welsh Language in Gwent', Gwent Local History, 51, Hydref 1981 t.13
- ↑ J. E. Caerwyn Williams, 'Islwyn', Y Llenor, Cyf. 28, 1949, t.232
- ↑ Meurig Walters, Storm Gyntaf Islwyn, t. 159.
- ↑ 6.0 6.1 Stephens, t. 685.
- ↑ "Islwyn". Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2024. Unknown parameter
|site=
ignored (help) - ↑ 8.0 8.1 Jones, R. M. (gol.) 1988 Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Cyhoeddiadau Barddas. t.11-13
- ↑ Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru. t.136-7
- ↑ Gruffydd, W. J.; "Islwyn", Y Llenor II.2 Haf 1923, tt.71
- ↑ http://ogre-blog.blogspot.com/2006/03/babel-chapel-cwmfelinfach-burial-place.html
- ↑ o'r rhagymadrodd i Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897).
- ↑ Gruffydd, W. J.; "Islwyn", Y Llenor II.2 Haf 1923, t.99; Noder mai at 'bedwaredd' ran y gerdd y mae Gruffydd yn cyfeirio yn y ffynhonell, camgymeriad sy'n deillio o flêrwch golygiad O. M. Edwards o'r gerdd.
- ↑ Hughes, t. 182-3.
- ↑ Hughes, t. 276.
- ↑ Hughes, t. 319-327.
- ↑ Hughes, t. 276.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |