Humphrey Lyttelton

cyfansoddwr a aned yn 1921

Cerddor jazz oedd Humphrey Richard Adeane Lyttelton (23 Mai 1921 - 25 Ebrill 2008[1][2]). Bu'n gadeirydd y gêm panel radio BBC I'm Sorry I Haven't a Clue ers 1972. Roedd yn gefnder i'r 10fed Is-iarll Cobham ac yn nai i'r gwleidydd a'r chwaraewr, Alfred Lyttelton, a oedd y dyn cyntaf i gynyrchioli Lloegr ym mhêldroed a criced.

Humphrey Lyttelton
Ganwyd23 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Eton Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 2008 Edit this on Wikidata
Barnet General Hospital Edit this on Wikidata
Label recordioParlophone Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg Eton
  • Sunningdale School
  • Camberwell College of Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd band, arweinydd, trympedwr, newyddiadurwr, cyflwynydd radio, cerddor jazz, awdur ffeithiol, ysgrifennwr, cyfansoddwr, hunangofiannydd, arlunydd comics, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddulljazz Edit this on Wikidata
TadG. W. Lyttelton Edit this on Wikidata
MamPamela Marie Adeane Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Hill Richardson, Patricia Mary Braithwaite Gaskell Edit this on Wikidata
PlantHenrietta Marie Lyttelton, Anthony Stephen Lyttelton, David George Lyttelton, Georgina Pamela Lyttelton Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.humphreylyttelton.com Edit this on Wikidata

Dyddiau cynnar a gyrfa golygu

Ganed Lyttelton yn Eton, ble roedd ei dad, G. W. Lyttelton (ail fab y 8fed Is-iarll Cobham), yn feistr tŷ yn y coleg. (Fel disgynydd yn y linell gwrywaidd o Charles Lyttelton, roedd Lyttelton was yn rhelyw i Is-iarllaeth Cobham a Barwniaeth Lyttelton.) O Ysgol Paratoadol Sunningdale, aeth Lyttelton ymlaen i Goleg Eton. Yn Eton, datblygodd ei ddidordeb mewn jazz. Ysbrydolwyd ef gan y trwmpedwyr Louis Armstrong a Nat Gonella, a dysgodd ei hun sut i chwarae'r offeryn cyn ffurfio pedwarawd yn yr ysgol yn 1936 a oedd hefyd yn cynnwys y newyddiadurwr i ddod, Ludovic Kennedy, ar y drymiau.

Wedi gadael yr ysgol, gwariodd Lyttelton amser yn y gwithfeydd plât dur ym Mhort Talbot, profiad a arweiniodd ato'n dod yn "socialwr rhamantus" fel y gelwodd ei hun. Gelwyd ef i fyny ar gyfer gwasanaeth yn y fyddin, gwasanaethodd yn y Gardiau Grenadier, a cafodd ei gomisiynu'n is-gapten ar 29 Tachwedd 1941,[3] gwelodd arwaith yn Salerno yn ystod Operation Avalanche pan ddaeth i'r lan gyda'i bistol yn un llaw, a'i drumped yn y llall.[4] Ar ddiwrnod VE, 8 Mai 1945, ymunodd Lyttelton yn y dathliadau gan chwarae ei drwmped o ferfa, gan gael ei berfformiad wedi ei ddarlledu am y tro cyntaf ar hap; mae recordiad y BBC yn dal i oroesi. Yn dilyn dadfyddiniad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mynychodd Coleg Celf Camberwell am ddwy flynedd.

Ymunodd â'r Daily Mail fel cartwnydd yn 1949, lle bu hyd 1956. Mae sawl o'i gartŵniau wedi cael eu arddangos ym Manc yr Abbey yn ddiweddar, fel ran o'r ymgyrch hysbysebu.

Discograffi golygu

  • Hook Line and Sinker
  • Blues in the Night
  • Blues in Bolero
  • Beano Boogie
  • Movin' and Groovin'
  • The Parlophone Sessions, cyf. 1-4
  • Delving Back and Forth with Humph
  • Take it from the Top
  • Swinging Scorpio
  • Hear Me Talkin' To Ya
  • The Jazz Club
  • Yours and Mine
  • It Seems Like Yesterday
  • Scatterbrains
  • Dixie Gold

Llyfryddiaeth golygu

  • I Play as I Please: The memoirs of an Old Etonian trumpeter (1954)
  • Second Chorus (1958)
  • Take it from the Top: An Autobiographical Scrapbook (1975)
  • Best of Jazz (1978)
  • Why No Beethoven?: Diary of a Vagrant Musician (1984)
  • It Just Occurred to Me...: An Autobiographical Scrapbook (2006)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Humphrey Lyttelton (2008-04-25).
  2.  Jazz legend Lyttelton dies at 86. BBC News (2008-04-25).
  3. "?", London Gazette, 16 Rhagfyr 1941, t. 7169.
  4.  George Melly; Jeremy Hardy a John Fordham (28 Ebrill 2008). Humphrey Lyttelton—Masterly jazz musician and broadcaster who chaired Radio 4's I'm Sorry I Haven't a Clue with wit and charm. The Guardian.