Athro Seisnig a llenor oedd George William Lyttelton (6 Ionawr 18831 Mai 1962).

G. W. Lyttelton
Ganwyd6 Ionawr 1883 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1962 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
TadCharles Lyttelton Edit this on Wikidata
MamMary Cavendish Edit this on Wikidata
PriodPamela Marie Adeane Edit this on Wikidata
PlantHelena Frances Lyttelton, Diana Maud Lyttelton, Humphrey Lyttelton, Margaret Rose Lyttelton, Mary Pamela Lyttelton Edit this on Wikidata

Roedd y Bonheddig Hon George William Lyttelton yn ail fab i Charles Lyttelton, pumed Arglwydd Lyttelton ac Is-iarll Cobham yn ddiweddarach, a'r bonheddig Mary Susan Caroline Cavendish. Addysgwyd o yn Eton a Coleg y Drindod, Caergrawnt.

Er y cofir ef am ei waith llenyddol, roedd hefyd yn chwaraewr criced a shot put. Enillodd gystadleuaeth shot put Coleg y Drindod mewn tair blynedd canlynol (1904, 37'7; 1905, 37'11 and 1906, 38'3 ¾). Roedd hefyd yn gerddor amatur, ond yn ôl cylchgrawn cyfoes y brifysgol, 'pan mae George Lyttelton yn ymarfer y sielo, mae holl gathod yr ardal yn casglu i'w ystafelloedd gan gredu fod un o'u aelodau mewn cyfyngder.'

Wedi graddio, dychwelodd i Eton fel meistr. Priododd Pamela Marie Adeane, merch Charles Robert Whorwood Adeane a Madeline Pamela Constance Blanche Wyndham, ar 3 Ebrill 1919. Cawsont bedair merch ac un mab, sef y trwmpedwr a'r cyflwynwr radio Humphrey Lyttelton.

Gwariodd George Lyttelton ei holl yrfa yn Eton, gan ymddeol yn 1945, wedi iddo ddysgu ymysg eraill, Aldous Huxley, George Orwell, Cyril Connolly, J. B. S. Haldane a John Bayley.

Ni fuasai ei fywyd wedi dod i sylw'r cyhoedd oni bai am ei ohebiaeth gyda cyn-fyfyriwr, Rupert Hart-Davis, a barhaodd o 1955 hyd ei farwolaeth yn 1962. Cyhoeddwyr yr ohebiaeth wedi ei farwolaeth o dan y teitl The Lyttelton/Hart-Davis Letters, roedd yn llwyddiant llenorol yn syth bin, a rhedodd i chwech cyfrol yn y diwedd. Roedd adolygwyr yn cymharu adroddiadau wythnosol Hart-Davis o fywyd prysur trefol gyda arsylwadau datgysylltiedig, ac yn aml, doniol, Lyttelton o'i ymddeoliad yn Suffolk.

Yn 2002 golygwyd a cyhoeddwyd 'commonplace book' Lyttelton, gan gadarnhau faint mor eang ac anghonfensiynol oedd ei ddiddordebau llenyddol, gan ymestyn o glasuron Groegaidd a Lladin i hysbysebion od a thoriadau o'r wasg – nid oedd yr holl ohonynt yn addas ar gyfer eu cyhoeddi, fel y gwneir yn glir gan ei fab Humphrey yn rhagair y llyfr.

Ffynonellau

golygu
  • The Lyttelton/Hart-Davis Letters, cyhoeddwyd gan John Murray, 1978 – 1984.
  • George Lyttelton’s Commonplace Book, golygwyd gan James Ramsden, cyhoeddwyd gan Stone Trough Books, 2002.