Huw Wheldon

person busnes, newyddiadurwr (1916-1986)

Roedd Syr Huw Wheldon (7 Mai 191614 Mawrth 1986) yn ddarlledwr a chynhyrchydd ar rwydwaith cenedlaethol y BBC yn ystod y 1950au a'r 1960au. Ganwyd ef ym Mhrestatyn ac fe'i magwyd ym Mangor, lle y mynychodd Ysgol Friars.

Huw Wheldon
Ganwyd7 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 1986 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, person busnes Edit this on Wikidata
Swyddpresident of the Royal Television Society Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCroes filwrol, OBE, Gwobr Ryngwladol Emmy am Gyfarwyddo, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Yn ffigwr blaenllaw ym myd darlledu'r celfyddydau yn ystod y cyfnod, dechreuodd ei yrfa ddarlledu fel cyflwynydd ar y rhaglen i blant, All Your Own. O 1958 i 1964 roedd yn olygydd ar y rhaglen gelfyddydau, Monitor, lle yr ymddangosodd fel y prif gyfwelydd, yn arwain tîm a oedd y cynnwys David Jones, Ken Russell a Melvyn Bragg.

Ym 1962 daeth yn bennaeth rhaglenni dogfen y BBC, rôl a ehangodd i fod yn bennaeth cerddoriaeth a rhaglenni dogfen y flwyddyn ganlynol. Ym 1965 apwyntiwyd ef yn reolwr rhaglenni a cafodd ei ddyrchafu i swydd rheolwr gyfarwyddwr Teledu'r BBC ym 1968. Parhaodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1975. Oherwydd ei oed, ni chafodd olynu Charles Curran fel cyfarwyddwr cyffredinol y BBC.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1976 am ei wasanaethau i'r byd darlledu. Roedd Wheldon yn briod â'r nofelydd Jacqueline Wheldon ac roedd ganddynt dri o blant.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.