Hyderabad
Dinas Hyderabad (Telwgw: హైదరాబాద్, Wrdw: حیدرآباد) yw prifddinas taleithiau Telangana ac Andhra Pradesh, yn nwyrain canolbarth India. Fe'i lleolwyd yn Andhra Pradesh hyd Mehefin 2014 pan grëwyd talaith newydd Telangana. Bydd Hyderabad yn gwasanaethu fel prifddinas y ddwy dalaith am 10 mlynedd. Yn 2011, roedd ganddi boblogaeth o 6,809,970 yn y ddinas ei hun a 7,749,334 yn yr ardal fetropolitanaidd. Sefydlwyd y ddinas ym 1591 gan Muhammad Quli Qutb Shah.
- Llysenw: "Dinas Perlau"
Math | mega-ddinas, dinas India, prifddinas y dalaith, State capitals of India |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ali ibn Abi Talib |
Poblogaeth | 9,305,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Telwgw, Wrdw, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Telangana, Andhra Pradesh (1956–2014), Hyderabad State, Hyderabad State, Golconda Sultanate |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 650 km² |
Uwch y môr | 505 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 17.3617°N 78.4747°E |
Cod post | 500001 |
Sefydlwydwyd gan | Muhammad Quli Qutb Shah |
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Birla Mandir
- Dinas Golconda
- Mecca Masjid
- Palas Chowmahalla
- Palas King Kothi
- Porth Charminar
- Ramoji Film City (RFC)
- Teml Chilkur Balaji
- Teml Sanghi
Enwogion
golygu- Syed Ali Akbar (1890-1984), ysgolhaig
- Waheed Akhtar (1934-1996), athronydd ac awdur
- Mohammad Azharuddin (g. 1963), chwaraewr criced