Telangana
Un o 29 talaith India yw Telangana, a leolir yn ne'r wlad. Mae ganddi arwynebedd o 111,840 km sg. (44,340 milltir sg.) a phoblogaeth o 35,193,978 (cyfrifiad 2011 ).[1], sy'n golygu mai hi yw'r ddeuddegfed dalaith fwyaf yn India o ran ei maint a'i phoblogaeth. Mae ei dinasoedd pwysicaf yn cynnwys Hyderabad, Warangal, Nizamabad, Khammam a Karimnagar. Mae'n ffinio ar daleithiau Maharashtra i'r gogledd a'r gogledd-orllewin, Chhattisgarh i'r gogledd, Karnataka i'r gorllewin ac Andhra Pradesh i'r dwyrain a'r de.[2]
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | tri, linga |
Prifddinas | Hyderabad |
Poblogaeth | 35,193,978 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Jaya Jaya he Telangana |
Pennaeth llywodraeth | Revanth Reddy |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Telwgw, Wrdw |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | South India |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 112,077 km² |
Yn ffinio gyda | Maharashtra, Andhra Pradesh, Karnataka, Chhattisgarh |
Cyfesurynnau | 17.99°N 79.59°E |
Cod post | 50 |
IN-TS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Telangana |
Corff deddfwriaethol | Legislature of Telangana |
Pennaeth y wladwriaeth | Tamilisai Soundararajan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Telangana |
Pennaeth y Llywodraeth | Revanth Reddy |
Cafodd Telangana ei hunaniaeth fel yr ardal Delwgw yn nhalaith dywysogaidd Hyderabad, dan reolaeth Nizam Hyderabad,[3] gan ymuno ag Undeb India ym 1948. Ym 1956, diddymwyd talaith Hyderabad fel rhan o ddeddf ad-drefnu'r taleithiau yn ôl eu hieithoedd a chyfunwyd Telangana â'r gyn-dalaith Andhra er mwyn creu Andhra Pradesh. Yn dilyn mudiad i ymwahanu, daeth Telangana yn dalaith ar wahân ar 2 Mehefin 2014. Hyderabad fydd prifddinas Telangana ac Andhra Pradesh ar y cyd am gyfnod o ddim mwy na deg mlynedd.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Population". Government of Telangana. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Administrative and Geographical Profile" (PDF). Telangana State Portal. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2014.
- ↑ Liam D. Anderson (2013). Federal Solutions to Ethnic Problems: Accommodating Diversity. Routledge. tt. 173–. ISBN 978-0-415-78161-9.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |