Gwyddor Ryngwladol Trawslythrennu Sansgrit

(Ailgyfeiriad o IAST)

Mae'r Wyddor Ryngwladol Trawslythrennu Sansgrit (Saesneg: International Alphabet of Sanskrit Transliteration (IAST)) yn gynllun trawslythrennu sy'n caniatáu Rhufeinio sgriptiau Indic fel y'u defnyddir gan Sansgrit ac ieithoedd Indig (neu Bramig) cysylltiedig. Mae'n seiliedig ar gynllun o awgrymiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y 19g gan Charles Trevelyan, William Jones (mab y mathemategydd Cymreig William Jones), Monier Monier-Williams ac ysgolheigion eraill, ac a ffurfiolwyd gan Bwyllgor Trawslythrennu Cyngres y Dwyrain, Genefa, ym Medi 1894.[1] Mae IAST yn ei gwneud hi'n bosibl i'r darllenydd di-glem ddarllen y testun Indig yn ddiamwys, yn union fel pe bai yn y sgript Indig wreiddiol. Y ffyddlondeb hwn i'r testunau gwreiddiol sy'n cyfrif am ei phoblogrwydd parhaus ymhlith ysgolheigion.

Gwyddor Ryngwladol Trawslythrennu Sansgrit
Enghraifft o'r canlynolromanisation system, system ysgrifennu Edit this on Wikidata
Mathphonetic transcription Edit this on Wikidata

Defnydd

golygu

Mae ysgolheigion prifysgol yn aml yn defnyddio IAST mewn cyhoeddiadau sy'n dyfynnu deunydd testunol yn Sansgrit, Paḷi ac ieithoedd Indiaidd clasurol eraill.

Defnyddir IAST hefyd ar gyfer ystorfeydd e-destun mawr fel SARIT, Muktabodha, GRETIL, a sanskritdocuments.org.

Mae cynllun IAST yn cynrychioli mwy na chanrif o ddefnydd ysgolheigaidd mewn llyfrau a chyfnodolion ar astudiaethau Indiaidd clasurol. Mewn cyferbyniad, daeth safon ISO 15919 ar gyfer trawslythrennu sgriptiau Indig i'r amlwg yn 2001 o'r byd safonau a llyfrgell. Ar y cyfan, mae ISO 15919 yn dilyn cynllun IAST, gan wyro oddi wrtho mewn mân ffyrdd yn unig (ee, ṃ/ṁ a ṛ/r̥) - gweler y gymhariaeth isod.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Monier-Williams, Monier (1899). A Sanskrit-English Dictionary (PDF). Oxford: Clarendon Press. tt. xxx.

Dolenni allanol

golygu