William Jones (mathemategydd)
Mathemategydd o Gymru oedd William Jones (1675 – 1 Gorffennaf 1749) fathodd y symbol π ("pai" yn Gymraeg; o'r lythyren Groeg pi) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr.
William Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1675 Llanfihangel Tre'r Beirdd |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1749 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mathemategydd |
Adnabyddus am | pi |
Tad | Siôn Siôr |
Mam | Elizabeth Rowland |
Plant | William Jones |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Bywyd
golyguYn fab i John George ac Elizabeth Rowland Jones,[1] ganwyd a magwyd William mewn tyddyn o'r enw "Y Merddyn" ym mhentref bychan Capel Coch ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, ar Ynys Môn cyn symud i Lanbabo.
Derbyniodd ei addysg cynnar mewn ysgol elusennol yn Llanfechell.[2] Trwy ei fedrau rhifyddeg, enillodd cefnogaeth a nawdd teulu Argwlydd Bulkeley, y tirfeddiannwyr lleol, a anfonodd William i Lundain. Yn Llundain cychwynodd ei yrfa yn gweithio fel cyfrifydd i fasnachwr. Tra'r oedd yng ngwasanaeth y gŵr hwnnw, bu ar fordaith i India'r Gorllewin. Addysgwyd ef mewn mathemateg a morwriaeth ar fwrdd llong y llynges o 1695 hyd 1702, gan hefyd sefydlu ysgol yn dysgu mathemateg yn Llundain yn hwyrach yn ei fywyd.
Prin yw'r tystiolaeth bod William wedi cadw cysylltiad â Môn a Chymru, ond prynodd lyfrau a llawysgrifau'r ysgolhaig Moses Williams. Trefnodd i Richard Morris wneud restr ohonynt a'u rhoi mewn trefn. Ymddiddoriai yn yr argraffiad newydd o'r Beibl a olygodd Richard Morris yn 1746, ac yn hwnnw mae dau fap sy'n "rhodd William Jones i'r Cymry".
Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion estyn croeso i wŷr galluog i'w tai. Mwynhaodd William gyfeillgarwch Arglwydd Parker a Iarll Macclesfield. Wedi colli ei bres oherwydd i fanc a fuddsoddwyd ynddo dorri, bu William yn byw am flynyddoedd yng nghartref Iarll Macclesfield yng Nghastell Shirburn. Priododd William â Marry Nix, merch y gwneuthurwr dodrefn enwog, a ganwyd fab iddynt. Enwyd eu mab yn William Jones hefyd, ac roedd yn ieithydd enwog, yn enwedig am ddarganfod y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd; roedd hefyd yn farchog.
Pan fu farw William yn 1749 dywedid bod ganddo'r llyfrgell fathemategol orau ym Mhrydain. Gadawodd honno, a'i gasgliad o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg i Iarll Macclesfield. Prynodd Syr John Williams y casgliad yn 1899 a'u rhoi i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Gwaith
golyguYn 1702 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf New Compendium of the Whole Art of Navigation, ac yntau ond yn 28 oed.[3]
Yn 1706 cyhoeddodd ei ail lyfr Synopsis Palmarorium Mathesos, or a New Introduction to Mathematics. Yn y llyfr hwn mae ei gyfraniad mwyaf fel mathemategydd, sef cyflwyniad o'r symbol π (y llythyren Groeg pai) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr. Ystyrid Synposis fel un o'r llyfrau mwyaf y cyfnod, a thrwyddi daeth at sylw Syr Isaac Newton a Syr Edmond Halley. Trwy'r ddau yma, daeth i gysylltiad â deallusion y cyfnod yn y Gymdeithas Brenhinol. Ar yr adeg hyn yr oedd maes calcwlws yn datblygu, gyda Newton ym Mhrydain a Leibnitz yn Ffrainc, ill dau, yn arddel math gwahanol o'r un pwnc. Yn 1711 penodwyd William yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Frenhinol, a sefydliwyd i astudio datblygaidau ym maes calcwlws; cydnabyddiaeth o'i statws ymhlith mathemategwyr Prydain. Yn 1712, etholwyd ef yn frodor o’r Gymdeithas Frenhinol, a bu'n ddirprwy-lywydd y Gymdeithas am gyfnod.
Tua 1711 derbyniodd William y swydd o olygu rhai o weithiau gwyddonol Isaac Newton, gan ei fod yn rhy brysur gyda'i waith efo'r Mint Brenhinol. Cyhoeddodd William amryw o bapurau o'i waith yn Philosophical Transactions of the Royal Society. Hefyd, y fo oedd y cyntaf i osod allan reolau llôg cyfansawdd neu adlog (compound interest).
Diwrnod Pi
golygu- Prif: Diwrnod Pi (mathemateg)
Ers 1988 mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi'n ddiwrnod rhyngwladol π a datblygodd i fod yn ddathliad byd-eang. Deilliodd y syniad o gael diwrnod pai o San Francisco, Unol Daleithiau'r America, lle defnyddir y fformat 'mis/dydd/blwyddyn' ar gyfer dyddiadau; o ddilyn y patrwm hwn, mae 14 Mawrth yn cyfateb i dri digid cynta'r rhif. Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i hyrwyddo mathemateg yn gyffredinol.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Ll. G. Chambers, Mathemategwyr Cymru (Caerdydd, 1994), tt. 18-22.
- Gareth Ffowc Roberts, Cyfri'n Cewri (Caerdydd, 2020), tt. 11-19.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwŷr Môn. Bedwyr Lewis Jones. [Caernarfon]: Cyngor Gwlad Gwynedd. 1979. ISBN 0-903935-07-4. OCLC 7735839.CS1 maint: others (link)
- ↑ Gwefan Cymdeithas Hanes Mechell; Archifwyd 2012-09-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Mai 2013
- ↑ [Cyfri'n Cewri gan Gareth Ffowc Roberts; Gwasg Prifysgol Cymru (2020). Tud 14.
- ↑ Y Cymro arlein; adalwyd 7 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) The Galileo Project Archifwyd 2004-02-03 yn y Peiriant Wayback