Cafodd y Sefydliad Ymchwil Gofod Indiaidd (Saesneg: Indian Space Research Organisation; ISRO) ei greu ym 1969. Mae'r sefydliad yn gyfrifol am ddatblygu technoleg ofod yn India. Mae'i bencadlys yn Bangalore.

ISRO
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth ofod, launch service provider Edit this on Wikidata
Rhan oPrime Minister's Office Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Awst 1969 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganIndian National Committee for Space Research Edit this on Wikidata
PerchennogLlywodraeth India Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadChairperson of the Indian Space Research Organization Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddVikram Sarabhai Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInternational Astronautical Federation, International Cospas-Sarsat Programme, Inter-Agency Space Debris Coordination Committee, International Space University Edit this on Wikidata
Gweithwyr16,072 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auHuman Space Flight Centre, Indian Institute of Remote Sensing, ISRO Inertial Systems Unit, ISRO Propulsion Complex, ISRO Telemetry, Tracking and Command Network, Laboratory for Electro-Optics Systems, Liquid Propulsion Systems Centre, Satish Dhawan Space Centre, Space Applications Centre, U R Rao Satellite Centre, Vikram Sarabhai Space Centre, Antrix Corporation Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadDepartment of Space Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcorfforaeth Edit this on Wikidata
Cynnyrchllong ofod Edit this on Wikidata
PencadlysBangalore Edit this on Wikidata
GwladwriaethIndia Edit this on Wikidata
RhanbarthKarnataka Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.isro.gov.in/, https://www.isro.gov.in/hi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lawnsiwyd y lloeren Indiaidd cyntaf, Aryabhata, ym 1975 ar roced Sofietaidd, ond erbyn 1980, roedd yr ISRO wedi ariannu roced brodorol, yr SLV (Cerbyd Lawnsio Lloeren; Satellite Launch Vehicle). Llwyddodd SLV i lawnsio lloeren yn llwyddiannus ar 18 Gorffennaf 1980. Olynydd yr SLV oedd yr ASLV (Advanced Satellite Launch Vehicle); ond doedd yr ASLV ddim yn ddibynadwy - roedd ddau o'i bedwar lawnsiadau yn fethiant. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r ISRO wedi datblygu cyfres o rocedi sydd yn addas i lawnsio lloerennau cyfathrebu, ac wedi ennill rhan o'r farchnad fasnachol, yn lawnsio lloerennau i wledydd eraill yn ogystal â chwmniau.

Fforio'r gofod

golygu

Mae ISRO wedi mynegi diddordeb mewn fforio Cysawd yr Haul, ond hyd yn hyn, mae eu hymdrechion yn y cyfeiriad hwn wedi bod yn gymharol fodest. Roedd Chandrayaan-1 (lawnsiwyd 22 Hydref 2008) yn berwyl llwyddiannus i gylchdroi'r Lleuad, er nifer o namau technegol; anfonwyd chwiliedydd gofod bach o'r lloeren i wyneb y Lleuad yn Nhachwedd 2008. Lawnsiwyd chwiliedydd o'r enw Mars Orbiter Mission i fforio'r blaned Mawrth yn Nhachwedd 2013, ac mae cynllun ar y gweill i anfon chwiliedydd arall i'r blaned Gwener yn 2015.