Iaith Coriacaidd

iaith

Iaith Chukotko-Kamchatkannaidd yw Coriacaidd a siaredir gan oddeutu 1,700 o bobl yn ardal mwyaf ddwyreiniol Siberia, yn bennaf yn Koryak Okrug. Fe'i siaredir gan mwyaf gan Coriacwyr. Ei berthynas ieithyddol agosaf yw'r iaith Chukchiaidd , sydd yn cael ei siarad gan deirgwaith cyn gymaint o bobl. Mae Coriacaidd, ynghyd â Chukchiaidd, Kerekaidd, Alutoreg ac Itelmennaidd yn ffurfio teulu ieithyddol y Chukotko-Kamchatkannaidd. Yr enw Coriaciadd am yr iaith yw  нымылан Nymylan, ond mae'r enw Rwsieg yn fwy cyffredin.[ ]

Ffurfir y Chukchi a'r Coriacwyr uned ddiwylliannol gydag  economi yn seiliedig ar fugeilio ceirw Llychlyn ac mae i'r naill hunan-lywodraeth o fewn Ffederasiwn Rwsiaidd.