Mae Siberia (Rwseg: Сиби́рь) yn ardal enfawr o Rwsia a gogledd Casachstan sy'n cynnwys rhan helaeth Gogledd Asia. Yn ôl y diffiniad hanesyddol, fe'i ffinir gan fynyddoedd yr Wral i'r gorllewin, y Cefnfor Tawel i'r dwyrain, y Môr Arctig i'r gogledd, a bryniau Casachstan a ffiniau Mongolia a Tsieina i'r de. Gorwedda'r rhan helaeth o Siberia yn Ffederasiwn Rwsia, ac fe ffurfia 77% (13.1 miliwn cilometr sgwar) o arwynebedd y wlad honno ond gyda dim ond 28% (tua 40 miliwn) o boblogaeth Rwsia.

Siberia
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAsia Edit this on Wikidata
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd13,100,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60°N 105°E Edit this on Wikidata
Map
Gweler Dosbarth Ffederal Siberia am y dalaith ffederal Rwsiaidd.
Coch tywyll - Dosbarth Ffederal Siberia
Coch tywyll a golau - Siberia Rwsiaidd daearyddol
Cyfan - Siberia yn ôl y ddiffiniad cyffredin a hanesyddol
 
Pont ar y Rheilffordd Traws-Siberia.

Roedd pobl yn byw yn Siberia rhai degau o filoedd o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd olion dynol ac artiffactau yn Ogof Denisova, Crai Altai o tua 40,000 mlynedd yn ôl. Lleolir yr ogof mewn rhanbarth lle y credir bu Neanderthaliaid a homo sapiens cynnar yn byw yn yr un cyfnod. Ym Mal'ta ar lan Afon Angara ger Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk, cafwyd hyd i gerfluniau bychain sy'n dyddio'n ôl tua 23,000 mlynedd. Cawsant eu cerfio o ifori mamoth. Yn nes ymlaen, roedd Siberia yn drigfan i wahanol grwpiau o nomadiaid, megis yr Yenet, y Nenets, yr Hyniaid, a'r Uyghur. Concrwyd yr ardal gan y Mongoliaid yn y 13g, ac fe ddaeth yn wladwriaeth annibynnol dan reolaeth Chân. Fe gychwynnodd pŵer cynyddol Rwsia tanseilio'r annibyniaeth hon yn yr 16g. Erbyn canol yr 17g, roedd yr ardaloedd o dan reolaeth Rwsia yn ymestyn i'r Cefnfor Tawel. Er hynny, ychydig iawn o ymwelwyr a ddaeth i Siberia yn y canrifoedd dilynol. Y newid mawr cyntaf yn Siberia oedd y rheilffordd Traws-Siberia, a adeiladwyd rhwng 1891 a 1903. Fe gysylltodd Siberia â Rwsia a'i diwydiant, a thrwy gydol yr 20g fe wnaed defnydd helaeth o adnoddau naturiol Siberia.

Daearyddiaeth

golygu

Gyda arwynebedd o 13.1 million km² (5.1 miliwn milltir sgwar), mae Siberia yn cynnwys tua 77% o holl diriogaeth Rwsia. Mae parthau daearyddol mawr yn cynnwys Gwastadedd Gorllewin Siberia a Llwyfandir Canol Siberia. Ceir tua 10% o arwyneb tir y Ddaear yn Siberia (148,940,000 km²). Mae coedwigoedd tirwedd taiga yn dominyddu yn y de gydag eangderau mawr o dirwedd twndra di-goed yn y gogledd. Y pwynt uchaf yn Siberia, yn ôl y diffiniad ehangaf, yw llosgfynydd byw Klyuchevskaya Sopka, a leolir ar Orynys Kamchatka yn y Dwyrain Pell; ei uchder yw 4,649 meter (15,253 troedfedd).

Mynyddoedd

golygu
 
Llosgfynydd Koryaksy ger Petropavlovsk-Kamchatsky, Crai Kamchatka.
 
Llyn ym Mynyddoedd Altai.

Afonydd a llynnoedd

golygu

Israniadau gweinyddol a dinasoedd

golygu

Israniadau

golygu
 
Teulu o Cosaciaid Siberiaidd yn Novosibirsk.
 
Dathlu Diwrnod y Ddinas yn Omsk.

Yn ôl y diffiniad Rwsiaidd cyfoes, mae Siberia yn cynnwys:

Yn ôl y diffiniad ehangach, mae'n cynnwys hefyd:

Dinasoedd

golygu
 
Barnaul.

Novosibirsk yw'r ddinas fwyaf. Mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys:

Yn y Siberia ehangach, ceir dinasoedd:

Llyfryddiaeth

golygu

Does dim llyfrau Cymraeg ar gael am Siberia eto. O blith y llyfrau Saesneg ceir:

  • Alan Wood (gol.), The History of Siberia: From Russian Conquest to Revolution (Llundain, Routledge, 1991).
  • Steven G. Marks, Road to Power: The Trans-Siberian Railroad and the Colonization of Asian Russia, 1850-1917 (Llundain, I.B. Tauris, 1991).
  • James Forsyth, A History of the Peoples of Siberia: Russia's North Asian Colony, 1581-1990 (Caergrawnt, Cambridge University Press, 1994).
  • Nicholas B. Breyfogle, Abby Schrader a Willard Sunderland (gol.), Peopling the Russian Periphery: Borderland Colonization in Eurasian history (Llundain, Routledge, 2007).
  • Igor V. Naumov, The History of Siberia. Gol. gan David Collins (Llundain, Routledge, 2009) (cyfres Routledge Studies in the History of Russia and Eastern Europe).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: