Ibn Sahl o Sevilla

Ibn Sahl (Arabeg: أبو إسحاق إبرهيم بن سهل الإسرائيلي الإشبيلي Abu Ishaq Ibrahim Ibn Sahl al-Isra'ili al-Ishbili) o Sevilla (1212-1251) oedd un o feirdd mwyaf Al-Andalus yn y 13g

Ibn Sahl (Arabeg: أبو إسحاق إبرهيم بن سهل الإسرائيلي الإشبيلي Abu Ishaq Ibrahim Ibn Sahl al-Isra'ili al-Ishbili) o Sevilla (1212-1251) oedd un o feirdd mwyaf Al-Andalus yn y 13g.

Ibn Sahl o Sevilla
Ganwyd1212, 1208 Edit this on Wikidata
Sevilla Edit this on Wikidata
Bu farw1251, 1251 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata

Ganed Ibn Sahl yn 1212-3 mewn teulu Iddewig yn Sevilla (de Sbaen). Eisoes erbyn y 1220au roedd yn fardd adnabyddus. Er gwaethaf ei gefndir Iddewig roedd Ibn Sahl yn Fwslim diffuant ac mae ei "diwan" (blodeugerdd o'i waith) yn dyst i'w deimladau crefyddol dwys. Ymddengys iddo droi'n Fwslim yn gynnar yn ei fywyd.

Pan syrthiodd Sevilla i ddwylo Ferdinand III o Castile yn 1248, ymadawodd Ibn Sahl am ddinas Ceuta (gogledd Moroco heddiw), lle cafodd swydd fel ysgrifennydd i'r llywodraethwr Almorafid Abu Ali Ibn Khallas. Pan anfonodd Ibn Khallas ei fab i wasanaethu al-Mustanir I, califf Hafsidiaid Ifriqiya, penderfynodd anfon Ibn Sahl yn gwmni iddo ar y fordaith. Ond llongrylliwyd eu galeri a boddwyd y teithwyr i gyd cyn cyrraedd Tunis. Yn ôl traddodiad, pan glywodd Ibn Khallaa hynny dywedodd: "Dychwelwyd y perl i'r môr."

Mae diwan Ibn Sahl yn cynnwys rhai o'r enghreifftiau mwyaf synhwyrus a soffistigefig o farddoniaeth Al-Andalus. Mae ei gerddi bron i gyd yn gerddi serch, yn aml o naws gyfrinol, a muwashsahat.

Yn ddiweddarach ysgrifennodd y llenor o Forocwr Mohammed El Ifrani (1670-1747) fywgraffiad Ibn Sahl.

Darllen pellach

golygu
  • Gert Borg (gol.), Representations of the Divine in Arabic Poetry (de Moor, Amsterdam, Atlanta 2001)
  • Arie Schippers, Humorous approach of the divine in the poetry of Al-Andalous, the case of Ibn Sahl