Ieuan Gwynedd Jones
Hanesydd o Gymru oedd yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones (7 Gorffennaf 1920 – 29 Mehefin 2018) [1][2]
Ieuan Gwynedd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1920 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 29 Mehefin 2018 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | academydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fab i löwr. Roedd ei fam yn hannu o Wynedd gan roi ei enw canol iddo a roedd ganddo un brawd, Simeon. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr ac er ei fod yn fachgen disglair, roedd rhaid iddo adael yr ysgol yn 14 oed i ennill cyflog. Bu'n forwr am flynyddoedd cyn i'w iechyd dorri a gweithiodd hefyd fel dyn signal ar y rheilffordd ym Mhontardawe.
Ar ôl Yr Ail Ryfel Byd ail-gydiodd yn ei addysg a chafodd radd cyntaf mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yna MA a chymrodoriaeth ymchwil yn Peterhouse, Caergrawnt.[1]
Gyrfa
golyguCafodd swydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Abertawe, gan weithio gyda rhai o haneswyr pwysig eraill yn cynnwys Glanmor Williams, K.O. Morgan, Gwyn Alf Williams, John Davies a Ralph Griffiths.
Ar ddiwedd yn 1960au fe'i benodwyd i Gadair Syr John Williams fel Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aber yn Ngorffennaf 2010.[2]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Maisie, oedd yn enedigol o Gwm Tawe. Roedd ganddynt un mab, Alun. Treuliodd rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn Ysbyty Bronglais ar ddydd Gwener 29 Mehefin 2018.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Marw un o haneswyr mwya’ Cymru , Golwg360, 6 Gorffennaf 2018.
- ↑ 2.0 2.1 Yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones. Prifysgol Aberystwyth (13 Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2018.