Gwyn Alf Williams

hanesydd a chyflwynydd teledu

Hanesydd ac ysgrifennwr oedd Gwyn Alf Williams (30 Medi 192516 Tachwedd 1995) a gafodd ei eni yn Lower Row, Pen-y-Wern, Dowlais.[1] Roedd yn fab i Thomas John (1892–1971) a Gwladys Morgan (1896–1983): y ddau yn athrawon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa a hefyd Gwernllwyn, capel yr Annibynwyr, lle y dysgodd cryn dipyn o Gymraeg a ble y derbyniodd gryn anniddigrwydd a gwrthwynebiad i'w syniadau Marcsaidd.

Gwyn Alf Williams
GanwydGwyn Alfred Williams Edit this on Wikidata
30 Medi 1925 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 1995 Edit this on Wikidata
Dre-fach Felindre Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Er iddo gael ei dderbyn, drwy ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth, fe'i gwysiwyd i ymuno â'r fyddin. Yna treuliodd flwyddyn yn adeiladu ffordd rhwng Zagreb a Belgrade yn Iwgoslafia, oherwydd ei ddaliadau comiwnyddol; ei arwr, bryd hynny, oedd y gwladweinydd Josip Broz Tito.[2] Wedi dychwelyd i Gymru ar ôl y rhyfel derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn hanes yn Aberystwyth a gradd feistr ddwy flynedd wedyn.Ym 1963 aeth i ddarlithio hanes ym Mhrifysgol Efrog a daeth yn Athro ddwy flynedd wedyn. Ym 1974 symudodd i Brifysgol Caerdydd.

Daeth yn enwog am ei ran yn y gyfres deledu ar hanes Cymru, The Dragon Has Two Tongues, fel gwrthwynebydd i'r hanesydd Wynford Vaughan-Thomas.[3]

Ar 12fed o Dachwedd 1979 traddododd ddarlith radio blynyddol BBC Cymry ar y testun When was Wales?.

Cyhoeddiadau golygu

  • Medieval London, 1963
  • Artisans and Sans-Culottes, 1968
  • Proletarian Order, 1975
  • Goya and the Impossible Revolution, 1976
  • The Merthyr Rising, 1978
  • Madoc: The Making of a Myth, 1979
  • The Search for Beulah Land: the Welsh and the Atlantic Revolution, 1980
  • The Welsh in Their History, 1982
  • When was Wales?, 1985
  • Excalibur: the Search for Arthur, 1994

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyn A. Williams (1985) When was Wales?: a history of the Welsh (Black Raven Press) ISBN 0-85159-003-9
  2. (Saesneg) Stephens, Meic. "Williams, Gwyn Alfred (1925–1995)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/60385.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. http://ftvdb.bfi.org.uk/sift/series/7083[dolen marw] BFI - The Dragon Has Two Tongues - A History Of The Welsh


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.