Ieuan Roberts
Ymgyrchydd iaith o Rosllannerchrugog oedd Ieuan Roberts, a elwir hefyd yn Ieu Rhos (16 Ionawr 1950 – 15 Awst 2016).[1][2][3]
Ieuan Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Ieu Rhos |
Ganwyd | 16 Ionawr 1950 |
Bu farw | 15 Awst 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
Ganwyd Ieuan Wynn Roberts yn fab i Mair a Tom Roberts. Aeth i astudio ym Prifysgol Abertawe ar ddiwedd y 1960au lle roedd John Davies yn ddarlithydd hanes Cymru iddo. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cafodd ei ddal yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffyrdd a wedi gwrthod talu'r ddirwy a osodwyd arno, fe'i carcharwyd am gyfnod. Wedi gadael y coleg symudodd i Aberystwyth i weithio fel ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith ar y cyd gydag Arfon Gwilym.[4]
Ym Mehefin 1972, fel rhan o'r ymgyrch am sianel deledu Cymraeg, roedd yn un o naw ymgyrchydd a feddiannodd adran weinyddol y BBC a chael ei arestio a'i gyhuddo am fod ag offer yn eu meddiant ar gyfer gwneud trosedd difrifol. Yn yr Old Bailey yn Llundain, blwyddyn yn diweddarach, cafodd y cyhuddiad ei israddio i un o gynllwyn ond cafwyd y naw yn ddieuog a thaflwyd yr achos allan.[5][6]
Yn Rhosllannerchrugog, bu’n gweithio fel gyrrwr bws, ac roedd ynghlwm â sefydlu’r papur bro Nene yn 1978.
Fe gyhoeddwyd Ieu Rhos - Y Geiriwr Garw A'r Galon Feddal, llyfr o atgofion o fywyd Ieuan Roberts a olygwyd gan y newyddiadurwr Arthur Thomas, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2017.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrnged i ymgyrchydd iaith o Wrecsam , Golwg360, 16 Awst 2016.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/byw/37086265#post_57b31be6e4b0e64e2b43a22a
- ↑ Hysbysiad marwolaeth Ieuan ROBERTS (5 Medi 2016).
- ↑ Y geiriwr garw â’r galon feddal , Y Cymro, 22 Awst 2016. Cyrchwyd ar 14 Medi 2016.
- ↑ S4C - Pwy Dalodd Amdani? (Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith) (PDF). Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Tachwedd 2010 [1985]. t. 39. ISBN 9781847713124.[dolen farw]
- ↑ http://www.leaderlive.co.uk/news/165638/rhos-man-was-a-staunch-supporter-of-anything-welsh-.aspx[dolen farw]