John Davies (hanesydd)
Hanesydd o Gymru oedd John Davies (25 Ebrill 1938 – 16 Chwefror 2015),[1] a oedd hefyd yn adnabyddus fel darlledwr. Ei lyfr enwocaf oedd Hanes Cymru (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.
John Davies | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ebrill 1938 Treorci |
Bu farw | 16 Chwefror 2015 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Y Celtiaid, Hanes Cymru |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywgraffiad
golyguGaned John Davies yn Ysbyty Llwynypia, Rhondda Fawr yn fab i Mary (née Potter) a Daniel Davies o Heol Dumfries, Treorci.[2][3] Magwyd yn Nhreorci ond symudodd ei deulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed a felly daeth yn adnabyddus i lawer fel John Bwlch-llan neu Bwlchws. Addysgwyd ef yn ysgolion Treorci, Bwlch-llan a Thregaron, yna ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i Gaerdydd. John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn 2005 cyflwynwyd Gwobr Glyndŵr iddo yn ystod Gŵyl Machynlleth am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru. Bu hefyd yn olygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.[4]
Fe'i ddyfarnwyd yn Gymrodor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2013 a sefydlwyd Gwobr Goffa Dr John Davies am y traethawd Hanes Cymru orau yn ei enw yn 2015.
Bywyd personol
golyguPriododd ei wraig Janet (nee Mackenzie) yn 1966. Roedd hithau yn hanesydd ac yn frodor o Flaenau Gwent. Cawsant pedwar o blant sef Anna, Beca, Guto and Ianto.
Mewn cyfweliad gyda HTV Cymru yn Nhachwedd 1998, daeth allan fel dyn deurywiol.[1]
Cyhoeddiadau
golygu- Cardiff and the Marquesses of Bute (1981)
- The Green and the Red: Nationalism and Ideology in Twentieth Century Wales (1984)
- Hanes Cymru (1990; ail-argraffiad 2006)
- Broadcasting and the BBC in Wales (1994)
- A History of Wales (1994) (cyfieithiad o Hanes Cymru; ail-argraffiad 2006)
- Plaid Cymru oddi ar 1960 (1997)
- The Making of Wales (1999)
- The Celts (2000)
- Y Celtiaid (2001)
- A Pocket Guide Series: Cardiff (2002)
- Rhanbarth Ymylol? Y Gogledd-Ddwyrain a Hanes Cymru (Caerdydd, 2007)
- Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw (Y Lolfa, 2009)[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens. John Davies: Academic and broadcaster whose peerless histories of Wales were rich with insight and fascinating detail (en) , The Independent, 19 Chwefror 2015.
- ↑ Davies, John (Hydref 2014). Hunangofiant John Davies: Fy Hanes I (yn cy). Y Lolfa. ISBN 9781847719850. URL
- ↑ BBC Wales Proffil o John Davies
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru[dolen farw]; adalwyd 05/01/2013.
- ↑ Gwefan y BBC; Hanesydd a ffotograffydd yn creu cyfrol ; adalwyd 05/01/2012