Arweinydd crefyddol Islamaidd ydy Imam (Arabeg: إمام, Perseg: امام). Yn aml, arweinydd mosg ydyw sydd i ryw raddau yn debyg i offeiriad Cristnogol (ond ni cheir offeiriaid fel y cyfryw yn Islam).

Imam
Enghraifft o'r canlynoloffeiriad, teitl anrhydeddus Edit this on Wikidata
Matharweinydd crefyddol, Islamic cleric Edit this on Wikidata
Rhan oMuslim clergy Edit this on Wikidata
Enw brodorolإِمَام Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fodd bynnag, gall rheolwr gwlad gael ei alw'n Imam yn ogystal, am ei fod yn arwain y gymuned Fwslemaidd yn ei wlad fel pennaeth y wladwriaeth. Ond yn ogystal mae'r teitl 'Yr Imam' (Arabeg: الإمام) yn chwarae rhan bwysig yn nhraddodiad Islam, yn arbennig yn achos Mwslemiaid Shia. Yn ystod canrifoedd cyntaf Islam cafodd ei ddefnyddio i gyfeirio at y Caliph yn nhestunau Sunni a Shia fel ei gilydd. Mae'n gallu bod yn deitl er anrhydedd yn ogystal.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.