Mosg
Mae mosg yn adeilad ar gyfer dilynwyr crefydd Islam. Fel rheol, defnyddir yr enw Arabeg masjid (luosog masajid) - مسجد. Prif ddiben y mosg yw fel lle i'r credinwyr gyfarfod i weddïo, y salat. Erbyn hyn maent i'w gweld ymhob rhan o'r byd. O ran pensaernïaeth, maent fel rheol yn dilyn arddull nodweddiadol Islamaidd, gydag un neu fwy o dyrau, y minaret. Cyn y pum gweddi ddyddiol mae'r muezzin yn galw'r credinwyr o'r minaret. Heblaw lleoedd i addoli, maent yn leoedd i ddysgu am Islam a chyfarfod credinwyr eraill.
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Fel rheol disgwylir i unrhyw un sy'n ymweld â mosg dynnu ei esgidiau a'u gadael wrth y drws. Yn rhai gwledydd Islamaidd ni chaniateir i ymwelwyr nad ydynt yn Fwslimiaid fynd i mewn i fwy nag ambell fosg, ond mewn gwledydd eraill mae croeso iddynt fynd i mewn i unrhyw un. Sefydlwyd y mosg cyntaf yn y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd yn 1860.
Ymhlith y mosgau enwocaf mae:
- Masjid al-Haram; Mecca, Sawdi Arabia - safle fwyaf sanctaidd Islam
- Masjid al-Nabawi; Medina, Sawdi Arabia - ail safle fwyaf sanctaidd Islam
- Mosg Al-Aqsa; Jerusalem, Israel - trydydd safle fwyaf sanctaidd Islam
- Mosg Imam Ali; Nayaf, Irac - safle fwyaf sanctaidd y Shia
- Mosg Faisal; Islamabad, Pacistan - y mosg mwyaf (o ran arwynebedd) yn y byd
- Mosg Córdoba; Córdoba, Sbaen - yn awr wedi ei droi yn Eglwys Gadeiriol
- Hagia Sophia; Istanbwl, Twrci - eglwys yn wreiddiol, yna'n fosg o 1453 hyd 1935
- Mosg Glas; Istanbwl, Twrci
- Jama Masjid; Delhi, India - un o'r mwyaf yn India
- Mosg Mawr Kairouan; y mosg hynaf a phwysicaf yn y Maghreb (Gogledd Affrica).
- Mosg Hassan II; yn ninas Casablanca, Morocco.
- Mosg yr Ummaiaid; Damascus, Syria