Hen enw ar frodorion Gogledd America a ystyrir bellach yn ddifrïol ac yn dramgwyddus yw Indiaid Cochion (Saesneg: Red Indians) neu groengochiaid[1] (redskins).

Ansicr yw tarddiad yr ymadrodd. Ymddangosodd yn oes y Tair Gwladfa ar Ddeg, o bosib yn gyfieithiad o un o enwau'r brodorion ar eu hunain, neu'n fathiad gan yr Ewropeaid. Nid yw geiriadurwyr ychwaith yn cytuno at beth mae'r "coch" yn cyfeirio: lliw naturiol croen y brodorion, neu'r pigmentau a ddefnyddid gan ambell lwyth i liwio'r croen. Beth bynnag y geirdarddiad, trodd yn air difrïol wrth i'r gwynion ei ddefnyddio mewn modd hiliol yn y 19g a chychwyn yr 20g.[2] Cysylltir yr enw yn hanesyddol â'r gwobrau a gynigir am grwyn pennau'r brodorion.[3]

Ni ddefnyddir yr ymadrodd yn yr oes fodern, ond parheir mewn enwau nifer o dimau chwaraeon, gan gynnwys tîm pêl-droed Americanaidd y Washington Redskins.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [redskin].
  2. "What is the definition of redskin?". Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-16. Cyrchwyd September 3, 2016.
  3. Roxanne Dunbar-Ortiz. "What "Redskins" Really Means: An Origin of Violence and Genocide". Beacon Press.

Darllen pellach golygu

  • C. Richard King. Redskins: Insult and Brand (Prifysgol Nebraska, 2016).