Inland Empire
ffilm ddrama sy'n llawn dirgelwch gan David Lynch a gyhoeddwyd yn 2006
Ffilm ddirgelwch gydag elfennau o arswyd yw Inland Empire (2006), a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan David Lynch. Dyma ffilm gyntaf Lynch ers Mulholland Drive yn 2001, ac mae llawer o debygrwydd rhwng y ddwy ffilm. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn gyntaf yn yr Eidal yng Ngŵyl Ffilm Fenis ar 6 Medi 2006. Gwnaeth y ffilm gymryd dwy flynedd a hanner i'w chwblhau, a dyma ffilm gyntaf Lynch i gael ei saethu yn gyfan gwbl mewn fideo digidol diffiniad safonol. Mae'r ffilm yn gyd-gynhyrchiad o Ffrainc, Gwlad Pwyl, a'r Unol Daleithiau.
Cyfarwyddwr | David Lynch |
---|---|
Cynhyrchydd | David Lynch Mary Sweeney Jeremy Alter Laura Dern Marek Żydowicz |
Ysgrifennwr | David Lynch |
Serennu | Laura Dern Jeremy Irons Justin Theroux Harry Dean Stanton Julia Ormond |
Cerddoriaeth | David Lynch Krzysztof Penderecki |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Absurda |
Dyddiad rhyddhau | 6 Medi 2006 |
Amser rhedeg | 180 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Ffrainc Gwlad Pwyl |
Iaith | Saesneg Pwyleg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |