Ioan Aurenau

Mynach, archesgob Caergystennin, a sant yr Eglwys Fore oedd Ioan Aurenau (Groeg: Ἰωάννης ὁ Χρυσόστομος; tua 349 - 407), a hanai o deulu cyfoethog o Antiochia, prifddinas Syria a'r rhan ddwyreiniol yr Ymherodraeth Rufeinig.

Ioan Aurenau
Johnchrysostom.jpg
Ganwydc. 349 Edit this on Wikidata
Antiochia Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 407 Edit this on Wikidata
Comana Pontica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, ysgrifennwr, offeiriad, diacon, Eastern Orthodox bishop Edit this on Wikidata
SwyddEcumenical Patriarch of Constantinople Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl27 Ionawr, 13 Medi Edit this on Wikidata
MamAnthusa Edit this on Wikidata

Wedi dod yn fynach fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ac wedyn yn offeiriad yn eglwys dians Antiochia. Mae'n adnabyddus am ei ddawn i bregethu ac annerch y torfeydd. Ystyr ei enw Χρυσόστομος (Chrysostomos yn Saesneg) yw "y geg aur", sy'n cyfeirio at hyn. Wedi i ddelwau'r teulu ymherawdwr gael eu distrywio, yn 387, cyfansoddodd nifer fawr o esboniadau ysgrythyrol. Mae ei holl waith yn cynnwys wyth o gyfrolau'r Patrologia Graeca Migne.

Fe ddetholwyd yn Archesgob Caergystennin. Ond achosodd ei gwymp aml ddadlau gyda gwraig yr ymherawdr, Eudoxia, a chyda Theophilos, Pab Alecsandria. Fe'i alltudwyd ddwywaith i ororion gogledd -ddwyreiniol yr Ymherodraeth lle fu farw ym mlwyddyn 407. Mae dylanwadiadau Stoiciaidd yn amlwg yn ei ysgrifau olaf.

Derbyniwyd gweddillion y sant yng Nghaergystennin a chladdwyd nhw yn Eglwys yr Apostolion. Trawsglwyddwyd nhw i Rufain ar ôl y Goncwest Ottomanaidd ond anfonwyd nhw gyda rhai Gregor Nazianzos i'r Phanar.

Mae'r Eglwysi yn dathlu ei wyl ar 13 Medi a throsglwyddiad ei weddillion ym mis Ionawr.

CyfeiriadauGolygu