Roedd Antiochia ar yr Orontes (Groeg: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; Lladin: Antiochia ad Orontem; hefyd Antioch); yn ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Orontes, ar safle dinas fodern Antakya, yn ne-orllewin Twrci. Dyma fam-ddinas y Groegiaid Antiochiaidd.

Antiochia
Mathsafle archaeolegol, dinas hynafol, man darganfod, ardal poblog Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAntiochus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mai 300 CC Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAntakya Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Arwynebedd15 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Orontes Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.2047°N 36.1817°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganSeleucus I Nicator Edit this on Wikidata
Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau)

Hanes golygu

Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y 4 CC gan Seleucus I Nicator, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer Xenarius i efelychu dinas Alexandria. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn brifddinas yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwyrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad Cristionogaeth.

Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl Rhufain ac Alexandria. Erbyn y 4g, yn ôl Chrysostom roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.

Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr Arabiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth Bohemund, tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn 1268 gan y Swltan Mamluk Baibars wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu