Iryna Bui
Biathletwr Paralympaidd a sgïwr traws gwlad o Wcráin yw Iryna Vasylivna Bui (Wcreineg: Ірина Василівна Буй; ganwyd 29 Ebrill 1995). Enillodd y fedal aur yn nigwyddiad sefyll 10 cilomedr y merched yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf 2022 a gynhaliwyd yn Beijing, Tsieina.[1] Cystadlodd hefyd yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn 2014 a 2018. Enillwyd y medalau arian ac efydd yn yr un digwyddiad hefyd gan gystadleuwyr Wcrain, Oleksandra Kononova a Liudmyla Liashenko.[2]
Iryna Bui | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ebrill 1995 Derazhnia |
Dinasyddiaeth | Wcráin |
Galwedigaeth | deu-athletwr, cross-country skier |
Gwobr/au | Master of Sport of Ukraine, International Class |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Wcráin |
Cafodd Bui ei geni yn Derazhnia, Khmelnytskyi Oblast[3] â chamffurfiad cynhenid yn y llaw chwith. Yn 15 oed, dechreuodd gymryd rhan mewn chwaraeon. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar yr arena ryngwladol ym mis Rhagfyr 2011, pan ddechreuodd gystadlu ar lefel ryngwladol mewn sgïo traws gwlad a biathlon. Yn 2012, cafodd Bui ei gynnwys yn nhîm Paralympaidd Wcráin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Iryna Bui leads Ukrainian sweep of biathlon 10km standing". NBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Mawrth 2022.
- ↑ Martin Belam (8 Mawrth 2022). "2022 Winter Paralympics: Ukraine complete double biathlon podium sweep". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Mawrth 2022.
- ↑ "Сільські Вісті, Наша пошта". www.silskivisti.kiev.ua (yn Wcreineg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-02. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.