Beijing
Prifddinas Gweriniaeth Pobl Tsieina a dinas ail fwyaf y wlad gyda 13,820,000 o drigolion yw Beijing (北京, "prif ddinas ogleddol"; ynganiad Mandarin ). Yn ogystal, mae Beijing yn ddinas hunanlywodraethol gyda statws tebyg i dalaith. Mae poblogaeth Beijing oddeutu 19,612,368 (2010),[1] 21,705,000 (2015),[2] 21,710,000 (2017),[3] 15,380,000 (2005),[4] 21,893,095 (2020).
Math | national capital |
---|---|
Enwyd ar ôl | prifddinas, gogledd |
Prifddinas | Ardal Tongzhou |
Poblogaeth | 19,612,368, 21,705,000, 21,710,000, 15,380,000, 21,893,095 |
Pennaeth llywodraeth | Yin Yong |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Berlin, Cairo, Dulyn, Tirana, Milan, Dinas Efrog Newydd, Beograd, Lima, Washington, Madrid, Rio de Janeiro, Ankara, Islamabad, Jakarta, Bangkok, Buenos Aires, Seoul, Kyiv, Dinas Brwsel, Hanoi, Moscfa, Ottawa, Minsk, Athen, Budapest, Llundain, São Paulo, Cwlen, St Petersburg, Manila, Dinas Mecsico, Astana, Copenhagen, Riga, Santiago de Chile, Alger, Tehran, Addis Ababa, Amman, Amsterdam, Bwcarést, Tel Aviv, Johannesburg, Santo Domingo, Salo, Tokyo, Phnom Penh, Vientiane, Ulan Bator, Delhi, Doha, Gauteng, De Cymru Newydd, Tiriogaeth Prifddinas Awstralia, San José, Costa Rica, La Habana, Lisbon, Helsinki, Rhufain, Paris, Île-de-France, Madrid, Dinas Wellington, Prag, Musashino, Yokohama |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tsieineeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gwlad | Tsieina |
Arwynebedd | 16,410.54 km² |
Uwch y môr | 43 metr |
Gerllaw | Afon Yongding, Afon Qing |
Yn ffinio gyda | Hebei, Tianjin, Langfang, Baoding, Zhangjiakou, Chengde |
Cyfesurynnau | 39.90403°N 116.40753°E |
Cod post | 100000 |
CN-BJ | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | People's Government of Beijing Municipality |
Corff deddfwriaethol | Beijing Municipal People's Congress |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Beijing |
Pennaeth y Llywodraeth | Yin Yong |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 3,610,260 million ¥ |
Enw'r ddinas
golyguCeir yr hen enw Cymraeg Pecin[5] a ddaw o'r ffurf Saesneg Peking.
Ystyr Beijing yw "prif ddinas ogleddol" (cymharer Nanjing, "y brif ddinas ddeheuol", a Tonkin a Tokyo; i gyd yn golygu "y brif ddinas ddwyreinol"). Weithiau mae Beijing yn cael ei alw'n Peking — daeth yr enw hwn i'r Saesneg drwy genhadon Ffrengig, bedwar can mlynedd yn ôl, ac mae'n dangos cyfnewidiad seinegol yn ystod y Brenhinllin Qing.
Yn Tsieina mae'r ddinas wedi newid ei henw lawer gwaith. Rhwng 1928 a 1949, Beiping ("Heddwch gogleddol") oedd enw'r ddinas, am fod llywodraeth y Cenedlaetholwyr (Kuomintang) yn rheoli'r gwlad o Nanjing, ac roedden nhw eisiau dangos nad Beijing oedd prifddinas y wlad. Pan oedd y Siapaneaid yn rheoli gwladwriaeth byped yng ngogledd Tsieina gyda Beijing yn brifddinas, arddelwyd yr enw Beijing unwaith eto, ond yn 1945 newidiodd llywodraeth Gweriniaeth Tsieina yr enw'n ôl i Beiping. Pan enillodd y Blaid Gomiwnyddol y rhyfel cartref yn Hydref 1949, newidiwyd yr enw i Beijing i ddangos eu bod nhw'n rheoli Tsieina gyfan. Dydy llywodraeth Gweriniaeth Tsieina yn Taiwan ddim wedi newid yr enw yn swyddogol, ac yn y 1950au a'r 1960au arferai llawer o bobl yn Taiwan alw'r ddinas yn "Beiping". Heddiw mae bron pawb yn Taiwan (gan gynnwys y llywodraeth) yn galw'r ddinas yn "Beijing".
Gwleidyddiaeth a llywodraeth
golyguMae llywodraeth drefnol yn cael ei rheoleiddio gan y Blaid Gomiwnyddol Tsieina leol, arweiniwyd gan yr Ysgrifennyd Beijing y Blaid (Tsieineeg: 北京市委书记). Mae'r blaid leol yn rhyddhau archebion gweinyddol, casglu treth, rheoli'r economi, ac yn cyfarwyddo pwyllgor o'r Gyngres Drefol y Bobl mewn penderfyniadau polisi a goruwchwylio'r llywodraeth leol.
Addysg
golyguYr Athro William Hopkyn Rees (1859 - 1924) sefydlodd goleg yma, sef coleg yn arbenigo mewn dysgu ieithoedd. Ganwyd Rees yng Nghwmafan, Gorllewin Morgannwg.[6]
Hanes
golyguHanes cynnar
golyguDaethpwyd o hyd i'r olion cynharaf o bobl yn byw ym mwrdeistref Peking yn ogofâu Bryn Esgyrn Dreigiau, ger pentref Zhoukoudian yn Ardal Fangshan, lle'r oedd "Dyn Peking" yn byw. Ceir ffosiliau o Homo erectus o'r ogofâu sy'n dyddio i 230,000 i 250,000 o flynyddoedd CP. Roedd Homo sapiens Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) hefyd yn byw yno'n fwy diweddar, tua 27,000 o flynyddoedd CPl.[7] Yn ogystal, mae archaeolegwyr wedi dod o hyd i olion aneddiadau Oes Newydd y Cerrig (neolithig) ledled y fwrdeistref, gan gynnwys yn Wangfujing, yng nghanol Peking.
Y ddinas gaerog gyntaf yn Beijing oedd Jicheng, prif ddinas talaith Ji ac fe'i hadeiladwyd yn 1045 CC. O fewn y Beijing fodern, roedd Jicheng wedi'i leoli o amgylch ardal Guang'anmen bresennol yn ne Ardal Xicheng.[8] Gorchfygwyd yr anheddiad hwn yn ddiweddarach gan dalaith Yan a drodd hi'n brifddinas.[9]
Tsieina Ymerodrol Gynnar
golyguAr ôl i'r Ymerawdwr Cyntaf uno Tsieina, daeth Jicheng yn brifddinas llywodraethol i'r rhanbarth.[10] Yn ystod cyfnod y Tair Teyrnas, fe'i daliwyd gan Gongsun Zan ac Yuan Shao, cyn cwympo i Wei o Deyrnas Cao Cao. Israddiodd Jin y dref yn y 3g OC, gan osod y sedd llywodraethol yn Zhuozhou gyfagos.
Yn ystod cyfnod yr Teyrnas Un-deg-chwech, pan orchfygwyd a rhannwyd gogledd Tsieina gan y Wu Hu, roedd Jicheng yn brifddinas Cyn-Deyrnas Xianbei, am gyfnod byr.[11]
Daearyddiaeth
golyguMae Beijing ar frig gogleddol Gwastadedd Gogledd Tsieina trionglog yn fras, sy'n agor i'r de a'r dwyrain o'r ddinas. Mae mynyddoedd i'r gogledd, i'r gogledd-orllewin a'r gorllewin yn cysgodi'r ddinas. Mynyddoedd Jundu sy'n dominyddu rhan ogledd-orllewinol y fwrdeistref, yn enwedig Sir Yanqing a Dosbarth Huairou, tra bod Xishan neu'r Bryniau Gorllewinol yn fframio'r rhan orllewinol. Adeiladwyd Mur Mawr Tsieina ar draws rhan ogleddol Dinesig Beijing ar y bryniau geirwon, i amddiffyn yn erbyn ymosodiadau o'r paith. Bryn Dongling ar y ffin â Hebei, yw pwynt uchaf y fwrdeistref, gydag uchder o 2,303 metr (7,556 tr).
Mae afonydd mawr yn llifo trwy'r fwrdeistref, gan gynnwys y Chaobai, Yongding a'r Juma, i gyd yn llednentydd yn system Afon Hai, ac yn llifo i gyfeiriad de-ddwyreiniol. Cronfa Ddŵr Miyun, ar rannau uchaf Afon Chaobai, yw'r gronfa fwyaf yn y fwrdeistref. Beijing hefyd yw terfynfa ogleddol Camlas y Grand i Hangzhou, a adeiladwyd dros 1,400 o flynyddoedd yn ôl fel llwybr cludo, a Phrosiect Trosglwyddo Dŵr o'r De i'r Gogledd, a adeiladwyd yn ystod y 2010au i ddod â dŵr o fasn Afon Yangtze.
Mae ardal drefol Beijing, ar y gwastadeddau yn g nghanol de'r fwrdeistref gyda drychiad o 40 i 60 metr (130-200200), yn meddiannu cyfran gymharol fach ond sy'n ehangu o ardal y fwrdeistref. Mae'r ddinas yn ymledu mewn cylchffyrdd consentrig, gyda'r Ail Gylchffordd yn dilyn hen waliau'r ddinas ac mae'r Chweched Cylchffordd yn cysylltu trefi cyfagos. Mae Tian'anmen a Sgwâr Tian'anmen yng nghanol Beijing, yn union i'r de o'r Ddinas Waharddedig, cyn breswylfa ymerawdwyr China. I'r gorllewin o Tian'anmen mae Zhongnanhai, preswylfa arweinwyr presennol Tsieina. Mae Rhodfa Chang'an, sy'n torri rhwng Tiananmen a'r Sgwâr, yn ffurfio prif echel dwyrain-gorllewin y ddinas.
Hinsawdd
golyguMae gan Beijing hinsawdd gyfandirol llaith dan ddylanwad monsoon (Köppen: Dwa), wedi'i nodweddu gan hafau llaith a phoeth iawn oherwydd monsŵn Dwyrain Asia, a gaeafau byr ond oer, sych sy'n adlewyrchu dylanwad antiseiclon helaeth Siberia.[12]
Gall y gwanwyn fod yn dyst i stormydd tywod sy'n chwythu i mewn o Anialwch Gobi ar draws paith Mongolia, ynghyd ag amodau sy'n cynhesu'n gyflym ond yn gyffredinol sych. Mae'r hydref, yn debyg i'r gwanwyn, yn dymor o newid, ac ychydig o wlybaniaeth. Y tymheredd cyfartalog dyddiol misol ym mis Ionawr yw −2.9 °C (26.8 °F), tra ym mis Gorffennaf mae'n 26.9 °C (80.4 °F). Mae'r dyodiad (glaw ayb) ar gyfartaledd oddeutu 570 mm (22 modfedd) yn flynyddol, gyda bron i dri chwarter y cyfanswm hwnnw'n gostwng rhwng Mehefin ac Awst. Gyda'r heulwen fisol yn amrywio o 47% ym mis Gorffennaf i 65% ym mis Ionawr a mis Chwefror, mae'r ddinas yn derbyn 2,671 awr o heulwen llachar yn flynyddol. Mae'r eithafion, er 1951, wedi amrywio o −27.4 °C (−17.3 °F) ar 22 Chwefror 1966 i 41.9 °C (107.4 °F) ar 24 Gorffennaf 1999 (gosodwyd cofnod answyddogol o 42.6 °C (108.7 °F) ar 15 Mehefin. 1942).[13]
Materion amgylcheddol
golyguMae gan Beijing hanes hir o broblemau amgylcheddol.[14] Rhwng 2000 a 2009, cynyddodd maint Beijing bedair gwaith, a oedd nid yn unig yn cynyddu maint yr allyriadau anthropogenig, ond a newidiodd y sefyllfa feteorolegol yn sylfaenol hefyd, hyd yn oed os na chynhwysir allyriadau cymdeithas ddynol.[15] Er enghraifft, gostyngwyd cyflymder gwynt a lleithder ond cynyddwyd tymereddau y ddaear a lefelau osôn. Oherwydd ffactorau trefoli a llygredd a achosir gan losgi tanwydd ffosil, mae Beijing yn aml yn cael ei effeithio gan broblemau amgylcheddol difrifol, sy'n arwain at faterion iechyd llawer o drigolion.
Yn 2013 fe darodd mwrllwch trwm (neu smog) Beijing a mwyafrif rhannau o ogledd Tsieina, gan effeithio ar gyfanswm o 600 miliwn o bobl. Ar ôl y "sioc llygredd" hwn daeth llygredd aer yn bryder economaidd a chymdeithasol pwysig yn Tsieina. Ar ôl hynny cyhoeddodd llywodraeth Beijing fesurau i leihau llygredd aer, er enghraifft trwy ostwng cyfran y glo o 24% yn 2012 i 10% yn 2017, tra bod y llywodraeth genedlaethol wedi gorchymyn i gerbydau oedd yn llygru’n drwm gael eu gwahardd, rhwng 2015 a 2017 a chynyddwyd eu hymdrechion i drosglwyddo'r system ynni i ffynonellau glân, adnewyddadwy.[16]
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Hen Palas yr Haf
- Mur Mawr Tsieina
- Neuadd Mawr y Bobol
- Pagoda Teml Tianning
- Palas ymerodrol
- Sgwâr Tiananmen
- Teml Cheng'en
- Teml yr Haul
- Teml Hongluo
Enwogion
golygu- Joyce Chen (1917-1994), chef
- Bai Guang (1921-1999), actores a chantores
- Xi Jinping (g. 1953), gwleidydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://beijing.qianlong.com/2021/0520/5805885.shtml.
- ↑ http://russian.news.cn/2016-01/20/c_135025411.htm.
- ↑ http://www.ebeijing.gov.cn/BeijingInformation/BeijingNewsUpdate/t1506791.htm.
- ↑ http://www.stats.gov.cn/tjsj/ndsj/2017/html/EN0206.jpg.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Peking].
- ↑ bywgraffiadur.cymru; adalwyd 5 Mawrth 2021
- ↑ "The Peking Man World Heritage Site at Zhoukoudian". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2013. Cyrchwyd 7 Ebrill 2008.
- ↑ "Beijing's History". China Internet Information Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2008. Cyrchwyd 1 Mai 2008.
- ↑ Haw, Stephen. Beijing: A Concise History. Routledge, 2007. t. 136.
- ↑ "Township divisions". ebeijing.gov.cn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2009. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2009.
- ↑ Grousset, Rene (1970). The Empire of the Steppes. Rutgers University Press. t. 58. ISBN 978-0-8135-1304-1.
- ↑ "Beijing". People's Daily. March 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2008. Cyrchwyd 22 Mehefin 2008.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mawrth 2013. Cyrchwyd 18 Chwefror 2013.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ J.R. McNeill, Something New Under the Sun: An Environmental History of the 20th-Century World. Efrog Newydd: Norton, 2000, ISBN 978-0-14-029509-2.
- ↑ Mark Z. Jacobson, Son V. Nghiem, Alessandro Sorichetta, Natasha Whitney, Ring of impact from the mega-urbanization of Beijing between 2000 and 2009. Yn: Journal of Geophysical Research: Atmospheres 120, Rhifyn 12, (2015), 5740–5756, doi:10.1002/2014JD023008.
- ↑ Peter Sheehan, Enjiang Cheng, Alex English, Fanghong Sun, China's response to the air pollution shock. Yn: Nature Climate Change 4, (2014), 306–309, doi:10.1038/nclimate2197.
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
---|---|
Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |