Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau

Gelwir gwraig i Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau weithiau'n Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau (Saesneg: Second Lady of the United States). Bathwyd y term yr "Is-Brif Foneddiges" ar ôl y Brif Foneddiges, sydd fel arfer yn wraig i'r Arlywydd. Credir y defnyddiwyd y term yn gyntaf gan Jennie Tuttle Hobbart, a oedd yn wraig i'r Is-Arlywydd o 1897 i 1899, i gyfeirio at ei hun.

Yr Is-Brif Foneddiges bresennol yw Karen Pence, gwraig i'r Is-Arlywydd Mike Pence.