Isaac Carter
Argraffydd a chyhoeddwr llyfrau Cymreig yn hanner cyntaf y 18g oedd Isaac Carter (bu farw 1741). Fe'i cofir fel sefydlydd yr argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru.
Isaac Carter | |
---|---|
Ganwyd | Unknown Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 4 Mai 1741 Unknown |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gohebydd gyda'i farn annibynnol, argraffydd, llyfrwerthwr |
Bywgraffiad
golyguYchydig a wyddys amdano. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys ond ymddengys yn bur sicr ei fod yn frodor o dref Caerfyrddin. Sefydlodd wasg yn hen fwrdeistref Trefhedyn (Adpar) yn 1718. Cynnyrch cyntaf y wasg oedd dau bamffledyn, Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco gan Alban Thomas a Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau gan awdur anhysbys, a gyhoeddwyd yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn Adpar yn cynnwys Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa (1719), Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol (1722) a Christion Cyffredin (1724). Parhaodd i gyhoeddi llyfrau tebyg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1741.
Ffynonellau
golygu- James Ifano Jones, A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923 (Caerdydd, 1925)
- Journal of the Welsh Bibliographical Society 1 (1983/4): 129-32;
- J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18th Century (Llundain: 1908-11)