Isdeitlau
Mae is-deitlau yn dangos deialog rhaglenni teledu neu ffilmiau ar ffurf ysgrifenedig, fel rheol ar waelod y sgrîn. Defnyddir naill ai i gyfleu trosiad ysgrifenedig y rhaglen neu ffilm mewn iaith arall, neu i roi fersiwn ysgrifenedig yn yr un iaith i gynorthwyo pobl fyddar neu ddysgwyr.