Ysgrifen yw unrhyw beth sy'n cofnodi iaith trwy ddefnyddio system o symbolau, arwyddion neu lythrennau. Defnyddir ysgrifennu am y weithred o'i gynhyrchu.

Tudalen o'r Llyfr Du o'r Waun (Peniarth 29), o ddechrau'r 13g

Yn y cyfnod cynnar, dibynnid ar y cof dynol, ond wrth i fasnach a gweinyddiaeth ddod yn fwy cymhleth, tyfodd yr angen am gofnod mwy dibynadwy a pharhaol. Dechreuodd hyn tua'r pedwerydd mileniwm CC.

Gall symbol gynrychioli gair unigol ("logograffig"), sillaf neu sain unigol. Defnyddir y term gwyddor am gasgliad o symbolau neu lythrennau sy'n cynrhycioli seiniau unigol. Bu datblygiad ysgrifen o bwysigrwydd mawr yn hanesyddol. Ceir un o'r enghreifftiau cynharaf ym Mesopotamia, lle defnyddid tabledi clai.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am ysgrifen
yn Wiciadur.