Issey Miyake
Dylunydd ffasiwn o Japan oedd Issey Miyake (22 Ebrill 1938 – 5 Awst 2022).[1] Roedd yn adnabyddus am ei ddyluniadau dillad arloesol, yn ogystal â persawr fel L'Eau d'Issey. Ganwyd yn ninas Hiroshima, ac roedd yn dyst i'r ffrwydrad pan ollyngwyd y bom niwclear cyntaf arni ar 1 Awst 1945. Astudiodd ffasiwn yn Tokyo a Pharis cyn iddo symud i Efrog Newydd i weithio ac astudio. Yno daeth i adnabod artistiaid avant-garde fel Christo a Robert Rauschenberg. Ym 1970 dychwelodd i Tokyo, lle sefydlodd dŷ ffasiwn llwyddiannus. Daeth yn adnabyddus am doriad syml o'r dillad, a'u deunyddiau arloesol. Roedd ei ddefnydd o bletiau yn arbennig o nodweddiadol.
Issey Miyake | |
---|---|
Ganwyd | 三宅 一生 22 Ebrill 1938 Hiroshima |
Bu farw | 5 Awst 2022 o hepatocellular carcinoma Tokyo |
Dinasyddiaeth | Japan, Ymerodraeth Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dylunydd ffasiwn, cynllunydd, person busnes, perfumer |
Blodeuodd | 2016 |
Gwobr/au | Urdd Diwylliant, Commandeur de la Légion d'honneur, Praemium Imperiale, Person Teilwng mewn Diwylliant, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, honorary Royal Designer for Industry, SOEN Award, Q126416268 |
Gwefan | http://www.isseymiyake.com/ |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lies, Elaine (9 Awst 2022). "Issey Miyake, Japan's prince of pleats, dies of cancer aged 84". Reuters (yn Saesneg).
Dolenni allanol
golygu