Tokyo
Prifddinas, talaith a dinas fwyaf Japan yw Tōkyō ( ynganiad Japaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 37,900,000 (2016)[1][2]. Dyma, felly, dinas fwyaf poblog y byd. Er mai ffigwr llai o tua 14,264,798 (2022) miliwn o bobl sy'n byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu i astudio yn ystod y dydd.[3] Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.
Math | metropolitan prefecture, capital of Japan, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas fawr, taleithiau Japan, metropolis, canolfan ariannol |
---|---|
Enwyd ar ôl | prifddinas, dwyrain |
Prifddinas | Shinjuku |
Poblogaeth | 14,264,798 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tokyo Metropolitan Song |
Pennaeth llywodraeth | Yuriko Koike |
Cylchfa amser | amser safonol Japan |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Minami-Kantō, Ardal Tokyo Fwyaf |
Sir | Japan |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 2,194.05 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Gerllaw | Bae Tokyo |
Yn ffinio gyda | Chiba, Saitama, Yamanashi, Kanagawa |
Cyfesurynnau | 35.6894°N 139.6917°E |
JP-13 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Metropolitan Tokyo |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Metropolitan Tokyo |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Tokyo |
Pennaeth y Llywodraeth | Yuriko Koike |
Yn wreiddiol yn bentref pysgota, o'r enw Edo, daeth yn ganolfan wleidyddol amlwg ym 1603, pan ddaeth yn sedd y siogyniaeth[4] Tokugawa. Erbyn canol y 18g, roedd Edo yn un o'r dinasoedd mwyaf poblog yn y byd gyda dros filiwn o bobl.[5] Yn dilyn diwedd y siogyniaeth ym 1868, symudwyd y brifddinas ymerodrol yn Kyoto yma, ac ailenwyd hi'n 'Tokyo' (yn llythrennol: "prifddinas ddwyreiniol").
Cafodd Tokyo ei difrodi gan Ddaeargryn Great Kantō yn 1923, ac eto gan gyrchoedd bomio’r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ddechrau yn y 1950au; ailadeiladwyd ac ehangwyd y ddinas yn gyflym, gan fynd ymlaen i arwain adferiad economaidd Japan ar ôl y rhyfel. Ers 1943, mae Llywodraeth Fetropolitan Tokyo wedi gweinyddu 23 ward arbennig y dalaith ('Dinas Tokyo' gynt), amryw drefi gwelyau yn yr ardal orllewinol, a dwy gadwyn o ynysoedd anghysbell.
Tokyo yw'r economi drefol fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), ac mae'n cael ei chategoreiddio fel dinas Alpha + gan y Rhwydwaith Ymchwil a Dinasoedd y Byd (World Cities Research Network). Rhan o ranbarth diwydiannol sy'n cynnwys dinasoedd Yokohama, Kawasaki, a Chiba, Tokyo yw prif ganolfan busnes a chyllid Japan. Yn 2019, roedd yno 36 o gwmnïau Fortune Global 500.[6] Yn 2020, roedd yn bedwerydd ar y Mynegai Canolfannau Ariannol Byd-eang, y tu ôl i Ddinas Efrog Newydd, Llundain, a Shanghai.[7] Yn Tokyo mae tŵr talaf yn y byd sef y 'Tokyo Skytree' a chyfleuster dargyfeirio dŵr llifogydd tanddaearol mwya'r byd: MAOUDC.[8] Llinell Metro Ginza Tokyo yw'r llinell metro danddaearol hynaf yn Nwyrain Asia (1927).[9]
Geirdarddiad
golyguFe ddaw'r enw o gyfuno Tō- (dwyrain) a -kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft Kyoto a Nara yn ardal Kansai.
Yn wreiddiol, gelwid Tokyo yn Edo (江 戸), gair cyfansawdd o kanji o 江 (e, "cildraeth, cilfach") ac 戸 (i, "mynediad, giât, drws").[10] Mae'r enw, y gellir ei gyfieithu fel "aber", yn gyfeiriad, felly, at leoliad yr anheddiad gwreiddiol yng nghymer Afon Sumida a Bae Tokyo. Yn ystod Adferiad Meiji ym 1868, newidiwyd enw'r ddinas i Tokyo.[11]
Gweinyddiaeth
golyguUn o daleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur Shinjuku.
Poblogaeth y ddinas gyfan yw 12,064,101 (2002 a'i faint yw 2186.9 km². Tokyo, Kanagawa, Saitama a Chiba sy'n ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, gyda tua 36 miliwn o bobl yn byw ynddi.
Hanes
golyguSefydlwyd Tokyo ym 1457 ond yr enw gwreiddiol oedd Edo (江戸). Ym 1603 daeth yn brif ddinas y siogyniaeth Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod yn Kyoto, gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym 1868 a gorchmynnodd Meiji Tenno i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.
Yn ystod y cyfnod Edo, mwynhaodd y ddinas gyfnod hir o heddwch o'r enw Pax Tokugawa, ac mewn heddwch o'r fath, mabwysiadodd Edo bolisi o ynysu ei hun o'r byd mawr, ac ni chafwyd unrhyw fygythiad milwrol difrifol i'r ddinas.[12] Fe wnaeth absenoldeb rhyfel ganiatáu i Edo neilltuo mwyafrif ei adnoddau i ailadeiladu (yn dilyn tanau cyson, daeargrynfeydd, a thrychinebau naturiol dinistriol eraill). Fodd bynnag, daeth y cyfnod hir hwn o neilltuaeth i ben gyda dyfodiad y Comodore Americanaidd Matthew C. Perry ym 1853. Gorfododd y Comodore Perry fod porthladdoedd Shimoda a Hakodate yn agor, gan arwain at gynnydd yn y galw am nwyddau tramor newydd a chanlyniad hynny oedd cynnydd difrifol mewn chwyddiant.[12][13]
Ym 1923 tarodd daeargryn mawr yr ardal a lladdwyd tua 100,000 o bobl a dinistrio llawer o adeiladau.[14] Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaeth yr Unol Daleithiau a roedd Tokyo yn bencadlys o dan y Cadfridog Douglas MacArthur.
Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym 1964 cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn y ddinas. Ers y 1970au mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystod bwrlwm economaidd yr 1980au roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y 1990au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i ddwyrain Asia a gweddill y byd.
Ar 20 Mawrth 1995 bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddio nwy nerfau Sarin mewn trên tanddaearol gan Aum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Genedlaethol
- Amgueddfa Shitamachi
- Creirfa Yasukuni
- Palas Ymerodrol
- Pont Enfys
- Tŵr Tokyo
- Yūshūkan
Daearyddiaeth
golyguMae Tokyo yn cynnwys ardal ar Honshu, ynys fwyaf Japan a nifer o ynysoedd bychain (Ynysoedd Izu ac Ynysoedd Ogasawara) ym Mae Tokyo a'r Cefnfor Tawel, rhai ohonyn mor bell a 1,000 km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf ac sydd hefyd yn rhan o Ardal Tokyo Fwyaf yw Kanagawa, Saitama a Chiba.
Wardiau
golyguMae 23 wardiau arbennig yn Tokyo, pob un gyda'i maer a'i chyngor:
Dinasoedd
golyguMae nifer o ddinasoedd (yn Japan, mae hynny fel arfer yn golygu trefi gyda mwy nag 50,000 o bobl yn bwy ynddynt) yn Tokyo, hefyd:
Ardaloedd, trefi a phentrefi
golyguTrefi a phentrefi ar ynysoedd:
Economeg
golyguCanolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.
Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo
golyguDemograffeg
golyguYn ôl oed (2002):
- Pobl ifanc (0-14): 1.43 miliwn (12%)
- Pobl oed gweithio (15-64): 8.5 miliwn (71.4%)
- Pobl hŷn (65+): 1.98 miliwn (16.6%)
Pobl yn dod o wledydd tramor: 327,000 (2001)
Tyfiad net y boblogaeth: +68,000 (rhwng 2000 a 2001)
Prifysgolion
golyguPrifysgolion enwocaf Tokyo yw:
Enwogion
golygu- Akira Kurosawa (1910-1998), cyfarwyddwr ffilm
- Yoko Ono (g. 1933), arlunydd
- Takeshi Kitano (g. 1947), comediwr, actor, cyfarwyddwr ffilm ac awdur
- Ryuichi Sakamoto (g. 1952), cerddor
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-10. Cyrchwyd 2010-08-06.
- ↑ "The World's Cities in 2018" (PDF). United Nations. Cyrchwyd 5 Mai, 2020. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ geiriaduracademi.org; adalwyd 5 Ebrill 2021
- ↑ McClain, James, James; et al. (1994). Edo and Paris: Urban Life and the State in the Early Modern Era. t. 13.
- ↑ "Global 500". Fortune (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2019.
- ↑ "The Global Financial Centres Index 28" (PDF). Long Finance. Medi 2020. Cyrchwyd 4 Hydref 2020.
- ↑ "Metropolitan Area Outer Underground Discharge Channel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2018. Cyrchwyd 10 Ionawr 2015.
- ↑ Hornyak, Tim (December 16, 2017). "Heart of gold: The Ginza Line celebrates its 90th birthday". Japan Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2017.
- ↑ Room, Adrian. Placenames of the World. McFarland & Company (1996), p. 360 Archifwyd 1 Ionawr 2016 yn y Peiriant Wayback. ISBN 0-7864-1814-1.
- ↑ US Department of State. (1906). A digest of international law as in diplomatic discussions, treaties and other international agreements (John Bassett Moore, gol.), Cyfrol 5, t. 759 Archifwyd 1 Ionawr 2016 yn y Peiriant Wayback; excerpt, "The Mikado, on assuming the exercise of power at Yedo, changed the name of the city to Tokio".
- ↑ 12.0 12.1 Naitō, Akira (2003). Edo, the City That Became Tokyo: An Illustrated History. tt. 33, 55.
- ↑ Naitō, Akira (2003). Edo, the City That Became Tokyo: An Illustrated History. tt. 182–183.
- ↑ Sorensen, Andre (2004). The Making of Urban Japan: Cities and Planning from Edo to the Twenty-First Century. t. 16.