Ithel Davies
bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig
Bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig oedd Ithel Davies (15 Chwefror 1894 - 9 Medi 1989[1].
Ithel Davies | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1894 Cemaes |
Bu farw | 9 Medi 1989 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr |
Roedd yn enedigol o Gwm Tafolog, Sir Drefaldwyn.[2]. Roedd yn fab i Benjamin Davies, ffarmwr ac Ann (née Ellis). Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, carcharwyd ef fel gwrthwynebwr cydwybodol. Bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod, a safodd fel ymgeisydd y blaid yn sedd Prifysgol Cymru yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1935.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1950, safodd fel ymgeisydd Plaid Weriniaethol Cymru yn etholaeth Ogwr. Cafodd 613 o bleidleisiau (1.3%).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1995 tud 8 am 1991)
- ↑ Mae'r ffurflen gyfrifiad ei deulu 1911 yn dangos ei fan geni fel Cemmaes (sef y plwyf eglwysig sy'n cynnwys Tafalog). Cyfrifiad Cymru a Lloegr, 1911. Archif Cenedlaethol y DU, 1911. Cyfernod:RG14/33726; Atodlen: 9