Ivy League
Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wyth prifysgol breifat yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yw'r Ivy League ("Cynghrair Eiddew"). Mae'r enw hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at yr wyth sefydliad fel grŵp y tu hwnt i gyd-destun chwaraeon. Dyma'r wyth prifysgol: Prifysgol Brown, Prifysgol Columbia, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Princeton a Phrifysgol Yale. Yn aml, mae gan y term "Ivy League" arwyddocâd o ragoriaeth academaidd ac elitiaeth gymdeithasol.
![]() | |
Enghraifft o: | cymdeithas athletaidd golegol ![]() |
---|---|
Rhan o | NCAA Division I ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1954 ![]() |
Yn cynnwys | Prifysgol Columbia, Prifysgol Brown, Prifysgol Princeton, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Yale ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | http://www.ivyleaguesports.com ![]() |
![]() |

Defnyddiwyd y term "Ivy League" yn answyddogol yn y 1930au, ond defnyddiwyd yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1945 ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Americanaidd rhwng yr wyth prifysgol. Ffurfiwyd y gynghrair yn ei ffurf bresennol, sy'n cynnwys pob math o chwaraeon rhyng-golegol, ym 1954.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol