Prifysgol breifat a leolir yn Providence, Rhode Island, Unol Daleithiau America yw Prifysgol Brown (Saesneg: Brown University) sydd yn un o brifysgolion elît yr Ivy League.

Prifysgol Brown
ArwyddairIn Deo Speramus Edit this on Wikidata
Mathprifysgol breifat, prifysgol ymchwil, Colonial Colleges, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNicholas Brown, Jr. Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1765 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirProvidence Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau41.8261°N 71.4031°W Edit this on Wikidata
Cod post02912 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganJames Manning, John Brown, Moses Brown, Morgan Edwards Edit this on Wikidata

Derbyniodd ei siarter yn gyntaf ar ffurf Coleg Rhode Island yn Warren, Rhode Island, ym 1764, ar gyfer myfyrwyr gwrywol o Fedyddwyr. Symudodd i Providence, prifddinas y dalaith, ym 1770 a chymerodd ei enw cyfredol ym 1804 er anrhydedd y cymwynaswr Nicholas Brown. Dan arweiniad Francis Wayland, llywydd Brown o 1827 i 1855, estynnwyd y cwricwlwm drwy helaethu'r pynciau dewis, ychwanegu ieithoedd modern, a gwella offer y labordai.[1] Trodd Brown yn brifysgol gymysg ym 1971 wrth gyfuno â Choleg Pembroke, y coleg merched cyswllt a sefydlwyd ym 1891 ac enwyd ar ôl Coleg Penfro, Caergrawnt ym 1928.

Mae Prifysgol Brown yn cynnwys coleg i israddedigion, adran ôl-raddedig, ac ysgolion meddygol. Mae'n wahanol i'r mwyafrif o brifysgolion eraill yn yr Unol Daleithiau gan ei bod yn disgwyl i fyfyrwyr israddedig lunio rhaglen astudiaethau rhyngddisgyblaethol eu hunain ar gyfer eu gradd academaidd. Mae ganddi ryw 7000 o israddedigion a rhyw 3000 o ôl-raddedigion.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Brown University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mehefin 2021.