J'Accuse
Cyhoeddwyd J'Accuse ("Rwy'n cyhuddo") gan Émile Zola yn 1898. Roedd swyddog ym myddin Ffrainc, Alfred Dreyfus, wedi ei gyhuddo o drosglwyddo dogfen filwrol gyfrinachol i'r Almaen. Ar 5 Ionawr 1895, cafwyd ef yn euog, ac wedi ei ddiswyddo fel swyddog, condemniwyd ef i garchar am oes ar Ynys y Diafol. Adnabyddwyd y helynt fel Achos Dreyfus.
Dechreuodd ymgyrch i'w ryddhau, gan fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn wan a bod gwrth-semitiaeth yn elfen yn yr achos, gan fod Dreyfus o dras Iddewig. Yn 1898, cyhoeddodd Zola J'Accuse, ar ffurf llythyr agored i Arlywydd Ffrainc, Félix Faure. Ar 13 Ionawr 1898, ymddangosodd y darn ar dudalen flaen L'Aurore, newyddiadur Georges Clemenceau. Rhoddodd Zola enw'r gwir ysbïwr, yr Hwngariad Ferdinand Walsin-Esterhazy. Diweddodd Zola y darn gyda nifer o gyhuddiadau, a rhoddodd y golygydd y pennawd "J'Accuse" uwch ei ben.
Cafodd llythyr Zola effaith sylweddol ar y farn gyhoeddus. Rhyddhawyd Dreyfus o garchar ar 19 Medi 1899, ond dim ond ar 12 Gorffennaf 1906 y dyfarnwyd ef yn ddieuog yn derfynol.