Milwr Belgaidd oedd Jürgen Conings (ganed 28 Medi 1974) a aeth ar ffo yn 2021 i wrthwynebu ymateb llywodraeth Gwlad Belg i bandemig COVID-19. Fe'i cyhuddwyd o gipio celc o arfau, gan gynnwys pistol, gwn peiriant a lansiwr rocedi, o'i farics yn Peutie, Brabant Fflandrysaidd, ar 17 Mai 2021 a mynd ar ffo. Gadawodd neges i'w gariad yn mynegi gwrthwynebiad i'r cyfnod clo a orfodwyd yn ystod y pandemig, yn cyhuddo'r llywodraeth o ddweud celwyddau, ac yn honni ei fod yn "ymuno â'r gwrthsafiad" yn erbyn y gwleidyddion a'r arbenigwyr gofal iechyd. Anfonodd hefyd lythyr at yr heddlu yn datgan ei fwriad i ladd Marc Van Ranst, prif firolegydd Gwlad Belg.

Jürgen Conings
Ganwyd28 Medi 1974 Edit this on Wikidata
Maaseik Edit this on Wikidata
Bu farw2021 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Dilserbos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Galwedigaethmilwr, terfysgwr, security guard, professional fitness coach Edit this on Wikidata

Cyn aeth ar ffo, roedd Conings yn hyfforddwr saethu, ac yn aelod o'r blaid genedlaetholgar Vlaams Belang.[1] Cafodd ei fonitro gan yr asiantaethau cudd-wybodaeth ar sail amheuaeth ei fod yn eithafwr adain-dde.[2]

Wedi iddo ffoi o Peutie, canfuwyd ei gar ger Parc Cenedlaethol Hoge Kempen yn nhalaith Limburg, a chredir iddo symud i'r gogledd, drwy ardal Beringen i fwrdeistref Pelt a'r ffin â'r Iseldiroedd. Ar 21 Mai, wedi chwiliad ysgubol o goedwig Hoge Kempen, datganodd yr awdurdodau eu bod wedi dod o hyd i wersyllfa dros dro Conings, ond heb ganfod y dyn ei hun.[2] Ar 22 Mai cyhoeddodd Interpol warant ryngwladol i arestio Conings am "fygythio cyrch terfysgol ar unigolion a'r llywodraeth".[3] Rhoddwyd Marc Van Ranst a'i deulu mewn caethiwed gwarchodol gan yr heddlu nes i Conings gael ei ddal.[2] Mae heddluoedd a lluoedd arfog yr Iseldiroedd, yr Almaen, a Lwcsembwrg[4] i gyd wedi cynorthwyo'r helfa ar ôl Conings.[5]

Ar 20 Mehefin 2021 cafwyd hir i gorff ym Mharc Hoge Kempen, ger tref Dilsen-Stockemon, a dybir ei fod yn Jürgen Conings, wedi saethu ei hun yn farw. Canfuwyd y corff gan faer y dref gyfagos Maaseik.[6]

Bu rhai pobl yng Ngwlad Belg, yn enwedig yn Fflandrys, yn cydymdeimlo ag achos Conings ac yn lleisio cefnogaeth iddo ar-lein ac yn gyhoeddus.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Iseldireg) Bruno Struys, "Voortvluchtige extremist Jürgen Conings had partijkaart van Vlaams Belang", De Morgen (1 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Helen Lyons, "The hunt for Jürgen Conings: a timeline", The Brussels Times (5 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
  3. (Saesneg) "Red Notice: CONINGS, JURGEN – Wanted by Belgium", Interpol. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
  4. https://www.nieuwsblad.be/cnt/dmf20210520_95474989
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Nick Gutteridge, "Army hunts Belgian soldier with scientist in his sights", The Times (5 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
  6. (Saesneg) "Belgium: Body found in search for fugitive far-right soldier", BBC (20 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 20 Mehefin 2021.