Limburg (Gwlad Belg)
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw talaith Limburg (Iseldireg: Limburg). Hi yw'r fwyaf dwyreiniol o daleithiau Fflandrys, ac mae'n ffinio ar daleithiau Noord-Brabant a Limburg yn yr Iseldiroedd. Y brifddinas yw Hasselt.
Mae gan y dalaith arwynebedd o 2,422 km², a phoblogaeth o 805,786. Fel yn holl daleithiau Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol.