J. Aelwyn Roberts
Ficer ac awdur o Gymro
Awdur, darlledwr a chlerigwr o Gymru oedd y Parchedig Joseph Aelwyn Roberts (1918 – 11 Ionawr 2018) a adwaenid fel arfer yn J. Aelwyn Roberts. Roedd yn gyn ficer plwyf Llandegai ger Bangor.
J. Aelwyn Roberts | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Aelwyn Roberts 1918 Blaenau Ffestiniog |
Bu farw | 11 Ionawr 2018 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Ficer, llenor |
Ysgrifennodd nifer o lyfrau am grefydd a'r goruwchnaturiol. Yn y 1940au, roedd yn un o leisiau cyfres radio wreiddiol Wil Cwac Cwac.[1]
Yn 1999 darlledwyd cyfres o ddramau dogfen ar S4C dan y teitl O'r Ochr Draw am ei hanes a phrofiadau o ysbrydion.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 99 oed.[2]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Margaret Yvonne Roberts (Grounds oedd ei chyfenw cyn priodi) a fu farw ar 21 Awst 2017. Roedd ganddynt chwech o blant.[3]
Llyfryddiaeth
golygu- Yr Anhygoel (Holy Ghostbuster yn Saesneg) (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Yn Saesneg - Holy ghostbuster: a parson's encounter with the paranormal (Hale, 1990).
- Andalusia a Phethau Bach Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 1993)
- Privies of Wales: Tai Bach Cymru (Cyhoeddiadau Tegai, 2000)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Parchedig J Aelwyn Roberts wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Ionawr 2018.
- ↑ (Saesneg) (REV) JOSEPH AELWYN ROBERTS : Obituary. Daily Post (16 Ionawr 2018). Adalwyd ar 17 Ionawr 2018.
- ↑ (Saesneg) ROBERTS : Obituary. Daily Post (24 Awst 2017). Adalwyd ar 13 Ionawr 2018.