J. Tywi Jones

gweinidog (B) a newyddiadurwr

Gweinidog (Bedyddwyr), newyddiadurwr a dramodydd oedd John Tywi Jones (7 Ionawr 187018 Gorffennaf 1948).

J. Tywi Jones
Ganwyd7 Ionawr 1870 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, newyddiadurwr, dramodydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Henllys Lodge, ger Llanymddyfri. Addysgwyd ef yn lleol ac yna astudiodd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Gogledd Cymru, lle y'i ordeiniwyd yn bregethwr. Priododd ddwywaith; ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Ellen Davies, yn 1915, priododd L. M. Owen. Pregethodd yn Nhraethcoch, Sir Fôn am wyth mlynedd a hanner, ac yna yng Nghlais, Abertawe am naw mlynedd ar hugain, cyn ymddeol yn 1935. Yn aml, wrth i Jones ysgrifennu ei ddramâu, roedd rhai o'i blwyfolion yn ymarfer gydag ef.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. Tywi Jones, Eluned Gwyn Owen neu Yr Eneth Goll (Caerfyrddin, 1914).
  • J. Tywi Jones, Jac Martin, neu Bobl Llandderwydd (Caerfyrddin, 1913).
  • J. Tywi Jones, Gwr y Cefen (Aberdâr, 1920).
  • J. Tywi Jones, Chwedlau Hamdden (Aberdâr, 1911).
  • J. Tywi Jones, Dic Sion Dafydd neu Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1913). [Ailargraffiad gyda nodiadau gan yr awdur.]
  • J. Tywi Jones, Y Cranc (Aberdâr, 1919).
  • J. Tywi Jones, Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1911).
  • J. Tywi Jones, Eisteddfod y Pentre (Wrecsam, 1922).
  • J. Tywi Jones, Y Bedydd Ysgrythyrol (Llanerchymedd, 1900).
  • J. Tywi Jones, Dirgelwch Dig neu Gyfrinach y Ffermwyr Mawr (Aberdâr, 1908).
  • J. Tywi Jones, Erthygl Di-enw, Y Darian (30 Hydref, 1919), t. 1.
  • J. Tywi Jones a E. Prosser Rhys, Gwaed Ifanc (Wrecsam, 1923). [Barddoniaeth]
  • J. Tywi Jones a E. Prosser Rhys, Gwaed Ifanc (Wrecsam, 1923).

Amdano golygu

  • Noel Gibbard, ‘Tywi yng Nghwm Tawe, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, Cwm Tawe (Cyfres y Cymoedd) (Llandysul, 1993), tt. 240–265.
  • Dafydd Wyn Wiliam, ‘Enllib hen nofel’, Casglwr, rhif 41 (1990) t. 9.
  • Noel Gibbard, ‘J. Tywi Jones a'i ohebwyr’, Traethodydd, cyfrol 163 (2008), tt. 180–189.
  • Tywi yng Nghwm Tawe / Noel Gibbard Cwm Tawe (Cyfres y Cymoedd) (1993), tt. 240–65.
  • Cecil Price, ‘Towards a National theatre for Wales’, Anglo-Welsh Review, XII, 29 (1962), 21.
  • D. T. Davies, ‘The Welsh Drama: important aspects of production’, The Western Mail (17 Mawrth 1920), t. 10.

Cyfeiriadau golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod J. Tywi Jones ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.