D. T. Davies

dramodydd

Arolygydd ysgolion a dramodydd oedd David Thomas Davies (24 Awst 18767 Mehefin 1962). Ganed yn Nant-y-moel, Morgannwg Ganol, ac fe'i magwyd yn y Gelli, Ystrad Rhondda. Enillodd radd B.A. o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac aeth i Lundain i ddysgu tan y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ymunodd â'r Ffiwsilwyr Cymreig.

D. T. Davies
Ganwyd24 Awst 1876, 1876 Edit this on Wikidata
Llandyfodwg Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 1962, 1962 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata

Tra yn Llundain, cafodd gyfle i weld llawer o theatr Saesneg proffesiynol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Ibsen yn ddylanwad mawr ar lwyfannau Llundain. Ysgrifennodd Davies rhai dramâu yn ystod y cyfnod hwn, e.e. Ble Ma Fa? (1913) ac Ephraim Harris (1914). Tybia rhai bod ddylanwad Ibsen i'w weld ar ei waith.

Dychwelodd i Gymru ar ôl y rhyfel, a bu'n byw ym Mhontypridd ac yn gweithio fel arolygwr ysgolion. Gweithiodd dros hybu'r ddrama Gymraeg trwy ysgrifennu ar gyfer cylchgronau'r cyfnod, beirniadu mewn Eisteddfodau (megis yr Eisteddfod Genedlaethol), gweithio gyda'r mudiad drama yn Abertawe, ac wrth gwrs, ysgrifennu dramâu. Bu farw yn 1962, ac fe'i claddwyd ym Mhontypridd.

Llyfryddiaeth golygu

  • D. T. Davies, Ble Ma Fa?, (Aberystwyth, 1913). [Drama]
  • D. T. Davies, Where Is He?, cyfieithwyd gan D. T. Davies, (Stratford-upon-Avon, 1917). [Drama]
  • D. T. Davies, Ephraim Harris, (Caerdydd, 1914). [Drama]
  • D. T. Davies, Pelenni Pitar, (Abertawe, 1925). [Drama]
  • D. T. Davies, Castell Martin, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, Y Pwyllgor, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, Y Dieithryn, (Caerdydd, 1922). [Drama]
  • D. T. Davies, Gwerthoedd, (Aberystwyth, 1936). [Drama]
  • D. T. Davies, Troi’r Tir, (Caerdydd, 1926). [Drama]
  • D. T. Davies, Toriad Dydd, (Aberystwyth, 1932). [Drama]
  • D. T. Davies, Ffrois, (Caerdydd, 1920). [Drama]
  • D. T. Davies, Branwen Ferch Llŷr, (Caerdydd, 1921). [Drama]
  • D. T. Davies, ‘Welsh folk drama: its future’, Anglo-Welsh Review, (Ionawr 1920), t. 65.
  • D. T. Davies, ‘The Welsh Drama: important aspects of production’, The Western Mail, (17 Mawrth 1920), t. 8.

Amdano golygu

  • Saunders Lewis, ‘Welsh Drama: a speech and a play’, Cambria Daily Leader, (24 Hydref 1919), t. 5.
  • Saunders Lewis, ‘Drama Week: a retrospect’, Cambria Daily Leader, (25 Hydref 1919), t. 4.
  • D. T. Davies, ‘Welsh Drama Week’, The Western Mail, (6 Mawrth 1920), t. 10.
  • ‘ Welsh Drama in Cardiff’, The Western Mail, (15 Mai 1922), t. 6.
  • ‘Y Ddrama 1913–1936’, Barn, rhif 271, (Awst 1985), t. 295.
  • Menna Davies, ‘D. T. Davies (1876–1962)’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, Cwm Rhondda (Cyfres y Cymoedd), (Llandysul, 1995), tt. 254–75.

Cyfeiriadau golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod D. T. Davies ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.