Cymeriad mewn straeon gwerin yw Jac (Saesneg: Jack). Yn aml mae'n oedolyn ifanc, arwr chwedlau, straeon a chaneuon i blant yn Nghernyw a Lloegr. Yn wahanol i arwyr moesegol llawer o straeon, yn aml mae'n ymddangos fel ffŵl neu dyn diog, sy'n llwyddo cyrraedd ei nod diolch i'w glyfrwch a'i driciau; hynny yw mae o'n "walch bach" direidus.

Mae'n ymddangos mewn straeon megis Jac a'r Goeden Ffa, Jac y lladdwr cewri, a Jac y Rhew. Mae elfennau cyffredin gan arwyr y straeon hyn. Ceir yr un cysyniad yn y cymeriad Saesneg John, y stori Almaeneg Hans im Glück, a'r cymeriad Rwseg Ivan.

Ym mynyddoedd yr Appalachians yng Ngogledd America, hefyd, mae straeon gwerin gydag arwr o'r enw Jack hefyd. Mewn rhai o'r straeon hyn, mae ganddo frodyr o'r enw Will a Tom.

Jac y lladdwr cewri

golygu
 
Jac yn lladd y cawr Cormoran

Stori gwerin yw Jack the Giant-killer. Digwydd yr hanes yn amser y Brenin Arthur. Mae Jac yn ddyn ifanc dewr o Gernyw, sy'n defnyddio ei glyfrwch er mwyn trechu sawl cawr.


Jac a'r goeden ffa

golygu
 
Lifft ofod - neu goeden ffa

Stori i blant yw Jac a'r Goeden Ffa (Jack and the Beanstalk), ail-eiriad o stori Jac y Lladwr Cewri (gw. uchod) yn wreiddiol, sy'n mynd yn ôl i'r 17eg ganrif o leiaf. Ceir sawl fersiwn o'r stori, ond un o'r rhai a ledaenwyd fwyaf yw hwnnw a gyhoeddwyd ym 1860 yn y llyfr English Fairy Tales gan Joseph Jacobs. Mae'r stori wedi eu haddasu llawer o weithiau ar ffurf ffilmiau a chynyrchiadau theatr.

Mae'r stori mor adnabyddus nes roi un o enwau technoleg lifft gofod (beanstalk yn Saesneg).

Mae Jac yn fab i weddw dlawd. Mae ei fam yn anfon Jac i'r farchnad, er mwyn gwerthu eu buwch olaf, ond mae Jac yn ei chyfnewid am ffeuen hud. Yn gynddeiriog, mae ei fam yn taflu'r ffa o'r ffenestr, a'r diwrnod nesaf mae planhigyn anferthol yn tyfu, sy'n estyn hyd at y cymylau. Mae Jac yn dringo i fyny i'r awyr, ac yn cyrraedd castell mawr sy'n eiddo i gawr. Wrth ymweld ag ystafelloedd y castell, mae'n darganfod iâr hudol sy'n dodwy wyau aur. Mae'n dwyn yr iâr ac yn mynd â hi adref. Yn nes ymlaen, mae'n penderfynu dychwelyd i gastell y cawr gan obeithio darganfod meddyginiaeth hudol. Daw o hud i delyn aur, sy'n dod â iechyd a hapusrwydd i bawb sy'n ei chlywed. Pan mae Jac yn mynd â'r delyn gydag o, mae'r delyn yn galw ar ei pherchennog am help. Mae'r cawr yn rhedeg ar ôl Jac, ond mae Jac yn dringo i lawr y goeden ffa yn gyntaf ac yn ei thorri; mae'r cawr yn syrthio ac yn marw. Diolch i'r iâr a'r delyn hudol, o hynny ymlaen, mae Jac a'i fam yn gyfoethog ac yn byw bywyd dedwydd.

Amrywiadau

golygu

Er mwyn osgoi dangos ochr anfoesol gweithredoedd Jac, mae rhai fersiynau yn ychwanegu bod y cawr yn greulon.