Jac Lewis Williams

addysgydd, awdur

Ysgolhaig, addysgydd a llenor Cymreig oedd Jac Lewis Williams (20 Gorffennaf 191827 Mai 1977), yn ysgrifennu fel Jac L. Williams.

Jac Lewis Williams
Ganwyd20 Gorffennaf 1918 Edit this on Wikidata
Aberarth Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1977 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson dysgedig, addysgwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganed eg yn Aberarth, Ceredigion. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddarch bu'n darlithio yng Ngholeg Technegol sir Fynwy. Enillodd ddoethuriaeth Prifysgol Llundain, gan gymeryd cymdeithaseg ardal wledig yng Nghymru fel pwnc. Daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yna yn 1956 yn ddarlithydd yn y Gyfadran Addysg, Prifysgol Aberystwyth. Yn 1960 daeth yn Athro yn y Gyfadran, ac yn 1976 yn Is-brifathro. Ystyrid ef yn arbenigwr ar ddwyieithrwydd.

Cyhoeddiadau golygu

  • Straeon y meirw (Llyfrau'r Dryw, 1947)
  • Geiriadur dysgwr: learner's Welsh-English dictionary (1968)
  • Detholiad o farddoniaeth Gymraeg: ynghyd â nodiadau a geirfa (Christopher Davies, 1969)
  • Addysg i Gymru (ysgrifau hanesyddol) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1966)
  • Trioedd (Christopher Davies 1973)
  • Geiriadur termau = Dictionary of terms (Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
  • The history of education in Wales (Christopher Davies, 1978)
  • Storiau Jac L (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1981)