Aberarth

pentref yng Ngheredigion

Pentref bach yng nghymuned Dyffryn Arth, Ceredigion, Cymru, yw Aberarth[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ; neu Aber-arth.[2] Fel yr awgryma ei enw, mae'r pentref yn sefyll ar aber Afon Arth lle rhed yr afon honno i Fae Ceredigion. Saif tua 3 milltir i'r gogledd o Aberaeron. Gellir gyrru drwy Aberarth ar yr A487 o Aberaeron i Lan-non.

Aberarth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2485°N 4.2353°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Afon Arth yn llifo trwy ganol Aberarth

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Hanes y pentref golygu

Mae arwyddocâd hanesyddol i bentref Aberarth oherwydd sefydlwyd y pentref oddeutu amser goresgyniad y Normaniaid. Cododd y Normaniaid Gastell Allt Craig Arth wrth waered yr afon.

Yn ystod y 12g yr oedd mynaich Sistersiaidd yn defnyddio'r ardal fel porth i fewnforio cerrig baddon o Fryste a ddefnyddiasant i godi mynachlog Ystrad Fflur ar dir a roddwyd iddyn nhw gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.

Yn honedig, tua hanner milltir i'r de o'r pentref mae bryn sy'n safle i Eglwys Llanddewi Aberarth. Mae'n debyg bod yr eglwys hon ar safle hen eglwys o'r nawfed ganrif. Mae gan yr eglwys bresennol dŵr Normanaidd a'r gweddill wedi ei ailadeiladu ym 1860.

Ymglymwyd Aberarth yn niwydiant adeiladu llongau cyn mil wyth pum deg, ond mae'r pentref wedi edwino gyda dirywiad y diwydiant.

Daearyddiaeth a natur golygu

Yn nwy fil a phump, cafodd llwybr ei gyflawni i gerddwyr ac i feiciau. Mae'r ffordd hon yn cysylltu Aberarth ag Aberaeron, y pentref mwy, cyfagos.

Mae cymuned o adar gwylltion i'w gweld yn yr ardal, ac mae hebogiaid tramor, brain goesgoch, clochdaron y cerrig a'r Barcud coch ymhlith y rhywogaethau sydd i'w gweld yno.

Er bod traeth Aberarth yn garegog, mae'r traeth hwn yn boblogaidd gyda brigdonwyr ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.

Enwogion golygu

Ganwyd a magwyd yr Athro Hywel Teifi Edwards a'r addysgwyr Jac L. Williams yn y pentref. Mae'r awdur Cynan Jones yn un o drigolion y pentref.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 16 Awst 2022
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu