Joci o ardal Cydweli, Sir Gaerfyrddin, oedd John Randolph Anthony (21 Ionawr 189010 Gorffennaf 1954) a adwaenid yn gyffredin fel Jack Anthony.

Jack Anthony
Ganwyd21 Ionawr 1890 Edit this on Wikidata
Cydweli Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhyfforddwr ceffylau, joci Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae'n fwyaf enwog am ei dair buddugoliaeth yn ras Y Grand National; ar Glenside yn 1911, ar Ally Sloper yn 1915 ac ar Troytown yn 1920. Ef oedd y trydydd joci i ennill y Grand National dair gwaith. Daeth yn drydydd hefyd yn 1925. Yn dod o deulu rasio ceffylau, cafodd ei eni ar fferm Cilfeithy, Llandyfeilog ger Cydweli. Roedd ei dad John Anthony yn amlwg yn y byd rasio ceffylau ynghyd a'i frodyr Ivor Anthony ac Owen Anthony.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.