Cydweli

tref yng Nghymru

Tref hynafol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, ar lan y ddwy afon Gwendraethafon Gwendraeth Fach ac afon Gwendraeth Fawr — yw Cydweli (Saesneg: Kidwelly). Mae Cydweli'n adnabyddus drwy Gymru am yr hwiangerdd draddodiadol Hen Fenyw Fach Cydweli.

Cydweli
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.736°N 4.307°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000506 Edit this on Wikidata
Cod OSSN407067 Edit this on Wikidata
Cod postSA17 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map

Mae'r cymuned hefyd yn cynnwys pentref Mynyddygarreg ar lannau'r Gwendraeth Fach. Roedd y canolwr rygbi a darlledwr enwog Ray Gravell, neu "Grav", yn frodor o'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]

Hanes golygu

Rhoddwyd siarter i'r dref tua 1115 gan y brenin Harri I o Loegr. Mae Castell Cydweli yn un o'r esiamplau gorau o'i fath yn ne Cymru, ac yn un o gadwyn a adeiladwyd ar draws y wlad i geisio gorchfygu'r Cymry.

Yn 1136 gwnaeth y dywysoges Gwenllian, chwaer Owain Gwynedd arwain brwydr yng Nghydweli yn erbyn y Normaniaid. Mae maes y gad yn cael ei adnabod hyd heddiw fel Maes Gwenllian.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chydweli yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Tyfodd Cydweli yn ddirfawr yn ystod y chwyldro diwydiannol. Roedd yno waith briciau a gwaith tin mawr, ac mae yno erbyn hyn amgueddfa ddiwydiannol.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cydweli (pob oed) (3,523)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cydweli) (1,510)
  
44.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cydweli) (2677)
  
76%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16–64 oed sydd mewn gwaith (Cydweli) (663)
  
44%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu