Jafaneg
iaith
Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Jafaneg (Basa Jawa). Fe'i siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain ynys Jawa yn Indonesia, ond ceir siaradwyr yn Swrinam a Caledonia Newydd. Mae rhwng 80 a 100 miliwn o siaradwyr i gyd, sy'n rhoi yr iaith yn 11fed ymhlith ieithoedd y byd.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw ![]() |
Math | Western Malayo-Polynesian, Sunda–Sulawesi ![]() |
Lleoliad | Yogyakarta, Canolbarth Jawa, Dwyrain Jawa, Lampung, Swrinam, Caledonia Newydd, Yr Aifft, Mawritania, Moroco, Sawdi Arabia ![]() |
Enw brodorol | Basa Jawa ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | jv ![]() |
cod ISO 639-2 | jav ![]() |
cod ISO 639-3 | jav, jvn, jas ![]() |
Gwladwriaeth | Indonesia ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Pegon alphabet, Old Javanese script, Javanese script, Javanese Latin alphabet ![]() |
![]() |
Yr arysgrif hynaf i'w ddarganfod mewn Jafaneg yw Arysgrif Sukabumi, a ddyddir i 25 Mawrth 804. Mae gan yr iaith ei gwyddor ei hun, ond gellir ei hysgrifennu gyda'r wyddor Ladin hefyd. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy. Siaredir ffurf Kromo a phobl o staws uwch na'r siaradwr, a Ngoko a phobl o statws is.