James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin

Gwleidydd a bargyfreithiwr o'r Alban oedd James Abercromby, Barwn 1af Dunfermline (7 Tachwedd 1776 - 17 Ebrill 1858). Gwasanaethodd fel Llefarydd Tŷ'r Cyffredin rhwng 1835 a 1839.[1]

James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin
Ganwyd7 Tachwedd 1776 Edit this on Wikidata
Tullibody Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1858 Edit this on Wikidata
Midlothian Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Frenhinol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddLlefarydd Tŷ'r Cyffredin, Barnwr-Adfocad Cyffredinol y Lluoedd Arfog, Meistr yr Arian, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
TadRalph Abercromby Edit this on Wikidata
MamMary Abercromby, Barwnes 1af Abercromby Edit this on Wikidata
PriodMary Anne Leigh Edit this on Wikidata
PlantRalph Abercromby, 2nd Baron Dunfermline Edit this on Wikidata
PerthnasauAlexander Abercromby, Robert Bruce, Lord Kennet Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Abercromby yn drydydd mab y Cadfridog Syr Ralph Abercromby, a fu farw ym Mrwydr Alexandria, a Mary, Barwnes 1af Abercromby, merch John Menzies o Fernton, Swydd Perth. Roedd yn frawd iau i George Abercromby, 2il Farwn Abercromby a Syr John Abercromby a brawd hŷn Alexander Abercromby. Cafodd ei addysgu yn yr Ysgol Uwchradd Frenhinol, Caeredin ac Eglwys Crist, Rhydychen.

Gyrfa golygu

Galwyd Abercrombie i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1801 Daeth yn gomisiynydd methdaliad ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn stiward ystadau Dug Swydd Dyfnaint.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Eisteddodd Abercromby fel Aelod Seneddol Chwigiaid etholaeth Midhurst rhwng 1807 a 1812 ac ar etholaeth Calne rhwng 1812 a 1830. Cyflwynodd dau gynnig seneddol i geisio gwella Cynrychiolaeth Caeredin yn y senedd. Derbyniodd lawer o gefnogaeth ond ni wnaed unrhyw newid hyd Ddeddf Diwygio 1832. Ym 1827 cafodd ei urddo'n aelod o'r Cyfrin Gyngor a phenodwyd ef yn Farnwr Eiriolwr Cyffredinol (prif farnwr llysoedd y lluoedd arfog) gan George Canning, swydd a ddaliodd hyd 1828, y misoedd olaf yn llywodraeth yr Arglwydd Goderich.[2]

Ym 1830 gwnaed Abercromby yn Arglwydd Brif Farwn Llys y Trysorlys yn yr Alban, swydd a gadwodd hyd 1832, pan ddiddymwyd y swydd. Derbyniodd bensiwn o £2,000 y flwyddyn. Ym 1832 dychwelodd i Dŷ’r Cyffredin fel un o'r ddau aelod dros Gaeredin, yr oedd eu cynrychiolaeth bellach wedi cynyddu o un i ddau aelod. Ym mis Gorffennaf 1834 aeth i gabinet yr Arglwydd Melbourne fel Meistr y Bathdy,[3] ond dim ond hyd fis Tachwedd yr un flwyddyn y daliodd y swydd, pan syrthiodd llywodraeth y Chwigiaid.

Ystyriwyd Abercromby ar gyfer swydd llefarydd Tŷ'r Cyffredin gan ei blaid ar gyfer etholiad 1833, ond dewiswyd Edward Littleton yn ei le yn y pen draw. Fodd bynnag, yn etholiad 1835 cafodd ei ddewis eto yn ymgeisydd y Chwigiaid a fu'n llwyddiannus. Parhaodd yn y swydd hyd 1839. Ar ei ymddeoliad fe'i ddyrchafwyd i'r bendefigaeth fel y Barwn Dunfermline, o Dunfermline yn Swydd Fife.[4]

Ar ôl iddo ymddeol parhaodd Abercromby i ymddiddori mewn materion cyhoeddus, yn benodol y rhai a oedd yn ymwneud â dinas Caeredin. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Ysgol Ddiwydiannol Unedig ar gyfer cefnogi a hyfforddi plant amddifad. Ym 1841 etholwyd ef yn Ddeon y Gyfadran ym Mhrifysgol Glasgow. Ysgrifennodd hefyd gofiant i'w dad, a gyhoeddwyd ym 1861 ar ôl ei farwolaeth.

Teulu golygu

Priododd yr Arglwydd Dunfermline â Mary Anne, merch Egerton Leigh, o West Hall, yn High Legh, ar 14 Mehefin 1802.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Collinton House, Midlothian, ym mis Ebrill 1858, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Grange, Caeredin. Olynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab, Syr Ralph Abercromby, KCB.

Cyfeiriadau golygu

  1. James Abercromby, Barwn 1af Dunfermlin - Bywgraffiadur Rhydychen
  2. James Abercromby, Barwn 1af Dunfermline - Gwefan History of Parliament
  3. "University of Glasgow :: Story :: Biography of James Abercromby 1st Baron Dunfermline". www.universitystory.gla.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-20. Cyrchwyd 2020-10-17.
  4. Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Watkin Williams-Wynn
William Plunket
Aelod Seneddol dros Midhurst
18071812
Olynydd:
Thomas Thompson
George Smith
Rhagflaenydd:
Joseph Jekyll
Henry Smith
Aelod Seneddol dros Calne
18121830
Olynydd:
Syr James Macdonald
Thomas Babington Macaulay
Rhagflaenydd:
Robert Adam Dundas
Aelod Seneddol dros Caeredin
18321839
Olynydd:
Syr John Campbell
Thomas Babington Macaulay