Jane Horrocks
actores
Mae Barbara Jane Horrocks (ganed 18 Ionawr 1964) yn actores, cerddor a chantores Seisnig. Cafodd ei geni yn Rawtenstall, Swydd Gaerhirfryn. Hyfforddodd yn y Royal Academy of Dramatic Arts gydag Imogen Stubbs a Ralph Fiennes cyn dechrau ar ei gyrfa gyda'r Cwmni Shakespeare Brenhinol. Derbyniodd ganmoliaeth mawr am ei pherfformiad yn y ffilm Life is Sweet (1990) cyn symud ymlaen i'r ddrama The Rise and Fall of Little Voice yn y West End. Yn y cynhyrchiad hwn, canodd Horrocks yr holl ganeuon. Daeth Horrocks yn fwyaf adnabyddus tra'n chwarae rhan Bubble yng nghomedi'r BBC, Absolutely Fabulous.
Jane Horrocks | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1964 Rawtenstall |
Man preswyl | Twickenham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llais, sgriptiwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor, sgriptiwr ffilm |
Gwobr/au | Gwobr Actores Orau Gŵyl Ffilm Sitges |