Jane Hughes (Deborah Maldwyn)
Bardd Cymraeg
Bardd Cymraeg oedd Jane Hughes (25 Mehefin 1811 – 1878), a fu'n adnabyddus i'w chyfoeswyr wrth ei henw barddol Deborah Maldwyn.[1]
Jane Hughes | |
---|---|
Ffugenw |
Deborah Maldwyn ![]() |
Ganwyd |
1811 ![]() Pontrobert ![]() |
Bu farw |
1878 ![]() Porthmadog ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd, ysgrifennwr ![]() |
Blodeuodd |
1840 ![]() |
Roedd hi'n un o ferched John Hughes (1775-1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur, a'i wraig Ruth Evans a fu'n forwyn yn Nolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths. Fe'i ganed ym Mhontrobert, Maldwyn, Powys yn 1811.[1]
Dechreuodd Jane grwydro Cymru ar ddiwedd y 1850au wedi marwolaeth ei rhieni. Roedd hi'n dilyn sasiynau'r Methodistiaid ac yn ennill ei bywoliaeth drwy werthu ei baledi crefyddol. Daeth yn bur adnabyddus ym myd Methodistiaid Cymru. Cyhoeddodd lawer o gerddi ar daflenni baledi a chyhoeddwyd dau gasgliad sylweddol o'i cherddi yn 1877.
LlyfryddiaethGolygu
- Yr Epha Lawn o Ymborth Ysprydol (1877)
- Telyn y Cristion (1877)