Jane Powell
Roedd Jane Powell (ganwyd Suzanne Lorraine Burce; 1 Ebrill 1929 – 16 Medi 2021) yn actores, cantores a dawnswraig Americanaidd. Cododd i enwogrwydd yng nghanol yr 1940au gyda rolau mewn amryw o sioeau cerdd Metro-Goldwyn-Mayer. Roedd [1] hi'n un o'r sêr olaf i oroesi o sinema Oes Aur Hollywood.
Jane Powell | |
---|---|
Ganwyd | Suzanne Lorraine Burce 1 Ebrill 1929 Portland |
Bu farw | 16 Medi 2021 Wilton |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, canwr, actor, dawnsiwr, actor llwyfan |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Unknown, Unknown, Unknown, Unknown, Dickie Moore |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cafodd Powell ei geni a'i magu yn Portland, Oregon, lle enillodd enwogrwydd lleol fel cantores. Symudodd i Los Angeles, lle arwyddodd gontract ffilm gyda Metro-Goldwyn-Mayer. Gwnaeth ei ymddangosiad hyntaf fel perfformiwr yn Song of the Open Road (1944), ac yna arweinydd yn Delightfully Dangerous (1945) gan Arthur Lubin. Enillodd Powell gydnabyddiaeth eang bellach am ei rolau arweiniol yn y sioeau cerdd A Date with Judy (1948), Royal Wedding (1951), Seven Brides for Seven Brothers (1954), a Hit the Deck (1955).
Ffilmiau
golygu- Song of the Open Road (1944)
- Delightfully Dangerous (1945)
- A Date with Judy (1948)
- Royal Wedding (1951), gyda Fred Astaire[2]
- Small Town Girl (1953)
- Seven Brides for Seven Brothers (1954)
- Hit the Deck (1955)
- The Girl Most Likely (1958)
- The Female Animal (1958)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Grimm, Matthew. "Jane Powell Biography". Turner Classic Movies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 5, 2021.
- ↑ Dick, Robert (2018). That Was Entertainment: The Golden Age of the MGM Musical (yn Saesneg). Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi. t. 170. ISBN 978-1-496-81736-5.